16-24 oed
Mae eich coleg lleol yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau, ar bob lefel wahanol. Bydd yr adnoddau gorau yno ar eich cyfer, yn cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf a chyfleoedd gwych o ran chwaraeon, teithio, profiad gwaith a digwyddiadau cymdeithasol.
Yn y coleg byddwch yn cael eich trin fel oedolyn. Does dim gwisg ysgol, dim clychau – bydd rhaid i chi weithio’n galed yr un fath ond byddwch yn cael cymorth yr holl ffordd drwyddo.
Mae eich coleg lleol yn cynnig cymaint - cannoedd o gyrsiau, cyfleusterau cyfoes, bywyd cymdeithasol bendigedig a phont i’r Brifysgol neu i yrfa.
Gwnewch gysylltiad gyda’ch coleg lleol heddiw.