Cyflogwyr
Mae’r colegau yn gweithio law yn llaw gyda pherchnogion busnesau bach er mwyn eu helpu i hyfforddi eu gweithwyr a mynd yn fwy proffidiol.
Maent yn cynnig modd i gwmnïau a’u gweithwyr ddod am hyfforddiant hanfodol bwysig, un ai yn y coleg neu yn y gweithle. Maent yn gallu llunio hyfforddiant yn arbennig ar gyfer anghenion busnes, datblygu cyrsiau pwrpasol a darparu safonau diwydiant, gyda thiwtoriaid arbenigol a chymorth rhagorol gydag astudio.
Trwy wasanaethau hyfforddi busnes, mae’r colegau yn datblygu unigolion, gwella perfformiad busnes a chefnogi’r economi leol.