25 Oed a Throsodd
Mae colegau lleol yn helpu cannoedd o bobl i gynnau tân unwaith eto ar hen aelwyd dysgu, beth bynnag oedd eich profiadau o’r blaen. Gallwch ennill cymwysterau gyda chydnabyddiaeth genedlaethol yn eich pwysau eich hun, dysgu sgiliau newydd i hyrwyddo eich gyrfa neu ddatblygu diddordeb a chyfarfod cyfeillion newydd.
Yn eich coleg lleol, mae’r astudio yn anffurfiol, mewn amgylchedd hamddenol addas i oedolion; mae’n hyblyg, er mwyn cyd-fynd â bywyd teuluol, mae’n gyfleus, mae llawer o gyrsiau yn cael eu haddysgu mewn lleoliadau yn y gymuned, mae’n ddigon rhad, rhai cyrsiau efallai yn rhad ac am ddim, ac eraill gyda chymorth ariannol sylweddol.
Cewc
h fwy o wybodaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael i ddysgwyr sy’n oedolion, lawrlwythwch ein harweiniad (pdf). Mae angen Adobe Acrobat arnoch i ddarllen yr arweiniad hwn. Os nad yw wedi ei osod ar eich peiriant chi, rydych yn gallu ei lawrlwytho oddi ar wefan Adobe.
Dyma’r amser gorau erioed i ddysgu rhywbeth newydd yn eich coleg lleol.