Manteision Coleg
Manteision Coleg
Mae bron i 300,000 o bobl yn astudio mewn colegau Addysg Bellach (AB) pob blwyddyn ac mae mwy o bobl ifanc 16-19 oed yn dysgu yn y coleg nag erioed o’r blaen.
Mae mwyafrif llethol y rhai sy’n dysgu mewn colegau yn astudio rhan amser, mae eraill yn mynd am gymwysterau Addysg Uwch ac mae mwy na 12,000 a rhaglenni Dysgu yn y Gwaith.
Beth felly yw ystyr hyn i gyd? Mae’n golygu bod gan eich coleg AB rywbeth i’w gynnig i bawb pan ddaw hi at ddysgu!
Mae colegau yng Nghymru yn amrywio’n sylweddol o ran eu maint, nifer a math y myfyrwyr a’r amrywiaeth o gyrsiau a gwasanaethau a gynigir. Mae llawer o golegau yn darparu pynciau arbenigol, cyrsiau hamdden ar gyfer oedolion a chyrsiau ar gyfer myfyrwyr tramor.
Maent hefyd yn cadw cysylltiadau agos gyda diwydiant lleol ac yn cynnal ystod eang o gyrsiau wedi eu llunio’n arbennig ar gyfer anghenion busnes yn lleol ac yn genedlaethol.
Beth felly yw eich cam nesaf? Beth am geisio gwybod mwy am yr hyn y gall eich coleg lleol ei wneud i chi – pa un a yw’n astudio ar gyfer mynd i’r Brifysgol, cwrs i wella eich gobeithion o gael gwaith neu ryw ddiddordeb yr ydych wedi bod ag awydd ei ddilyn erioed.