Coleg Iâl
Manylion Cysylltu
Manylion Cysylltu: 01978 311794
Ffacs: 01978 364254
E-bost: admissions@yale-wrexham.ac.uk
Gwefan: www.yale-wrexham.ac.uk
Y Coleg
Mae
Coleg Iâl yn goleg blaenllaw ym maes addysg drydyddol a phellach. Yng nghanol Wrecsam, mae’n cynnig amgylchedd cyfeillgar a chefnogol er mwyn i’r gymuned gyfan fedru mwynhau dysgu, yn cynnwys y rhai 14-19 oed, cyflogwyr, myfyrwyr tramor a dysgwyr sy’n oedolion.
Mae mwy na 14,000 o fyfyrwyr yn dewis Coleg Iâl pob blwyddyn ac yn mwynhau’r cyfleusterau, sydd gyda’r gorau a’r diweddaraf, y mae’r sefydliad dysg rhagorol hwn yn y DU yn eu cynnig. Dyfarnwyd graddau un iddo ym mhob agwedd ar ei waith yn yr arolwg diweddar gan y llywodraeth.
Gallwch sicrhau’r yrfa a’r dyfodol yr ydych yn eu dymuno yng Ngholeg Iâl …
- Astudio mewn amgylchedd gofalgar a chefnogol
- Mwynhau cyfleusterau sydd gyda’r gorau a’r mwyaf diweddar
- Cyflawni’r canlyniadau y mae arnoch chi eu hangen
- Dewis o’r amrywiaeth fwyaf o gyrsiau yn yr ardal
Cyrsiau
Gyda dewis o gyrsiau sydd ymysg y mwyaf a gynigir yng Nghymru, yn cynnwys mwy na 150 o lwybrau amser llawn i’r brifysgol ac i waith a dewis o 40 o bynciau yn y Safon Uwch, mae rhywbeth i bawb yn Iâl! Defnyddiwch chwilio am gyrsiau ar ein gwefan i ddod o hyd i gwrs i chi!
14 -19 oed
Mae Coleg Iâl yn gweithio gydag ysgolion yn Wrecsam i gynnig arlwy hael o ddewisiadau galwedigaethol y gall disgyblion ym mlynyddoedd 10 ac 11, 14-16 oed, eu hastudio. Ewch at www.mychoicewrexham.com i weld y dewisiadau sydd ar gael yn eich ysgol chi.
Ar gyfer astudiaethau’r rhai 16-19 oed, mae Coleg Iâl yn cynnig dewis o fwy na 150 o lwybrau amser llawn i brifysgol ac i waith ar ystod o lefelau addas i’ch anghenion. Defnyddiwch ein chwiliad cyrsiau i gael mwy o wybodaeth – gallwch chwilio am y cwrs yr ydych chi’n ei ddewis, neu edrych ar faes pynciol y mae gennych ddiddordeb ynddo, fel:
Mynediad i AU | Prentisiaethau | Gwyddoniaeth Gymwysedig| Safonau Uwch/UG | Celf, Dylunio & Chyfryngau | Technoleg Busnes & Swyddfa | Adeiladu| Peirianneg | Trin Gwallt & Therapi Harddwch| Gwasanaethau Cyhoeddus, Iechyd a Gofal, Lletygarwch & Arlwyo | Y Celfyddydau Byw | Chwaraeon, Hamdden, Twristiaeth ac Astudiaethau’r Ceffyl| Lefel Mynediad & Dysgu â Chymorth | TGAU
Prentisiaethau a Swyddi Dan Hyfforddiant
Ar gyfer myfyrwyr sydd ar ymadael â’r ysgol ac eisiau mynd yn syth allan i fyd gwaith, neu ar gyfer y rhai sydd mewn swydd yn barod, mae hyfforddiant prentisiaeth yn cynnig dewis arall cyffrous ac ymarferol yn lle astudiaeth amser llawn. Maent yn fodd i bobl sy’n gweithio o unrhyw oed ennill cymwysterau sy’n berthnasol i’w gyrfa, ac ennill cyflog yr un pryd!
Addysg Uwch, Wedi Graddio a Phroffesiynol
Mae Coleg Iâl yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Addysg Uwch y gellir eu hastudio’n hyblyg mewn dosbarthiadau rhan amser dydd a min nos. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Plentyndod Cynnar
- Gradd Sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Astudiaethau Peirianneg Sifil
- Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Astudiaethau Adeiladu
- Tystysgrif Addysg i Raddedigion
Cynigir dewis mawr iawn o gyrsiau wedi graddio a phroffesiynol hefyd yng Ngholeg Iâl, mewn Peirianneg, Rheoli, Hyfforddiant Athro ac Asesu.
Cyflogwyr
Mae mwy na 200 o gyflogwyr yn dod i Goleg Iâl am eu hyfforddiant sgiliau ar gyfer datblygu eu gweithwyr, yn cynnwys Airbus UK, PRL Training, Scottish Power a llawer mwy. Gan Goleg Iâl y mae’r contract mwyaf ond un gan y Cynulliad ar gyfer dysgu yn y gwaith a gyda’r cyfraddau llwyddiant sydd ar hyn o bryd yr uchaf yng Nghymru, mae cyflogwyr yn elwa ar y safonau uchel y mae’r coleg yn eu cyflawni yn y maes hwn, yn cynnwys 11 o raddau un ym mhob agwedd ar y gwaith, yr uchaf yng Nghymru, yn ei arolwg diweddar o ddysgu yn y gwaith.
I wybod sut y gall Coleg Iâl fod o fudd i’ch gweithlu, ewch at dudalennau cyflogwyr ein gwefan, neu gysylltu â ni ar 01978 316441.
Rhyngwladol
Mae croeso cynnes i fyfyrwyr tramor yng Ngholeg Iâl, sy’n cynnig dewis o gyrsiau ar gyfer mynd ymlaen i’r brifysgol neu i waith mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol.
Ymwelwch â’n tudalennau rhyngwladol ar y wefan i gael mwy o wybodaeth.
Dyddiau a Nosweithiau Agored
Dyma ein Nosweithiau Agored yn 2008-9:
- Dydd Iau, Tachwedd 20fed 2008
- Dydd Iau, Mawrth 12fed 2009
Cynhelir y rhain o 5pm tan 8.30pm ar ddau safle’r coleg a dyma eich cyfle i ymweld â’r coleg a dod i wybod mwy am yr hyn yr ydym yn gallu ei gynnig i chi:
- Cyfarfod y tiwtoriaid
- Mynd o gwmpas i weld y coleg a’r cyfleusterau
- Gwneud cais am gwrs
- Cael cyngor gyrfaol
- Cael gwybodaeth am gludiant a chymorth ariannol
I gael mwy o wybodaeth ffoniwch Derbyniadau ar 01978 311794 neu e-bostio: admissions@yale-wrexham.ac.uk
