Coleg Garddwriaeth Cymru
Manylion Cysylltu
Ffôn: 01352 841000
Ffacs: 01352 841031
E-bost: info@wcoh.ac.uk
Gwefan: www.wcoh.ac.uk
Y Coleg
Manylion Cysylltu
Oherwydd ei statws Gradd 1, Coleg Garddwriaeth Cymru yw prif goleg Cymru ym maes astudiaethau seiliedig ar dir. Mewn 91 o hectarau o erddi a choetir prydferth ym mhentref bach Llaneurgain yn Sir Y Fflint, mae CGC yn ymfalchïo yn ei adnoddau dysgu a chyfleusterau masnachol o’r radd flaenaf. Mae’r cyfleusterau gwych, yn cynnwys uned gynhyrchu arddwriaethol fasnachol, fferm organig, tiroedd helaeth, canolfan arddio, campfeydd ceffylau dan do ac awyr agored, stiwdio flodeuwriaeth, gweithdai peiriannau, uned anifeiliaid lle mae popeth o gwningod i igwanaod, ynghyd â chysylltiadau gwych gyda diwydiant, oll yn gymorth i baratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus.
Cyrsiau
Mae CGC yn cynnwys amrywiaeth o gyrsiau mewn gofal anifeiliaid , astudiaethau’r ceffyl, blodeuwriaeth, garddwriaeth, a pheiriannau. Mae’r cyrsiau yn cychwyn ar lefel mynediad , ac yn mynd yr holl ffordd i raglenni ar lefel prifysgol . Cynigir cyfleoedd i astudio amser llawn neu ran amser , fin nos, yn y gweithle, ac mewn canolfannau allanol ledled Cymru.
14 -19 oed
Mae CGC yn cynnig Hyfforddiant Gradd 1 <http://www.wcoh.ac.uk/ci_ins.asp> ym mhob un o’r astudiaethau seiliedig ar dir. Mae’r tiwtoriaid wedi ymrwymo i lwyddiant a chynnydd y myfyrwyr, ac mae lefelau cyrhaeddiad pob adran yn uchel.
Anogir y myfyrwyr i adeiladu portffolio mawr o sgiliau yn CGC a rhoddir cymorth ychwanegol gydag ennill profiad ymarferol, sgiliau entrepreneuraidd, sgiliau busnes a lleoliadau gwaith. Mae myfyrwyr o lefel mynediad i lefel prifysgol yn cael eu paratoi’n llwyr ar gyfer gyrfa yn y diwydiant y maent yn ei ddewis.
Prentisiaethau & Swyddi Dan Hyfforddiant
Mae Prentisiaeth Fodern neu Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol yn fodd i chi ennill cyflog tra byddwch yn dysgu. Mae ymgeiswyr yn gallu ennill cymhwyster gyda chydnabyddiaeth ryngwladol tra maent yn gweithio, gan ddysgu sgiliau ymarferol a chael profiad o ddiwydiant.
Mae CGC yn gallu cynnig hyfforddiant CGC (NVQ) ym mhob un o’r darpariaethau seiliedig ar dir, yn ogystal â Gofal Plant, Gwasanaeth Cwsmer a Rheoli. Mae ystod o ddewisiadau CGC (NVQ) ar gael hefyd pob blwyddyn ar y safle.
Addysg Uwch, Wedi Graddio a Phroffesiynol
Mae CGC yn goleg wedi ei achredu gan Brifysgol Morgannwg a Phrifysgol Glyndŵr (NEWI gynt). Cynigir cymwysterau Addysg Uwch mewn pedair o’n pump o brif adrannau academaidd. Ym mhob maes mae nifer o gymwysterau i’w dewis a llwybrau astudio ar gael sy’n gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd ar gyfer y rhai sy’n dymuno ennill cymwysterau ar y lefel hon.
Mae rhaglenni addas i’w cael ar gyfer y rhai sy’n mynd ymlaen yn syth o gymwysterau lefel 3, myfyrwyr aeddfed sy’n dod yn ôl i ddysgu a’r rhai sy’n dymuno dewisiadau rhan amser.
Dysgwyr sy’n Oedolion
Mae CGC wedi ymrwymo i gefnogi dysgu gydol oes ac mae’n darparu dewis eang o gyrsiau ar gyfer dysgwyr sy’n oedolion sydd am ddatblygu hen sgiliau ac ailhyfforddi mewn meysydd newydd. Cynigir cyrsiau rhan amser, dydd a min nos mewn ystod eang o bynciau am ychydig o wythnosau, gydol y flwyddyn. Mae dewisiadau rhan amser ar gael hefyd ynghyd â chyfleoedd amser llawn gyda’r rhan fwyaf o’r cyrsiau a gynigir tros flwyddyn gyfan. Yn aml, rydym yn rhoi heibio gofynion mynediad gyda chyrsiau ar gyfer dysgwyr aeddfed.
Cyflogwyr
Mae Dysgu Gydol Oes yn faes sy’n datblygu’n barhaus yng Ngholeg Garddwriaeth Cymru. Mae’r tîm proffesiynol a hynod o brofiadol yn CGC yn ymdrechu’n ddi-baid i ddiwallu anghenion cyflogwyr a’u gweithwyr. Mae Aseswyr Llwybr yn gweithio gyda gweithwyr mewn gweithleoedd ledled Cymru a Lloegr er mwyn eu helpu i wella lefelau eu sgiliau a chynyddu perfformiad y cwmni. Cynigir hyfforddiant mewnol, CGC (NVQ) a chyrsiau proffesiynol byr.
Rhyngwladol
Mae CAG yn croesawu myfyrwyr ar gyrsiau addysg bellach ac uwch o bob rhan o’r byd. Mae llety i’r myfyrwyr ar gael ar y safle ar gyfer y rhai sy’n dymuno ymuno â chymuned gyfeillgar y safle. Mae modd hefyd cymryd rhan mewn lleoliad cyfnewid tramor yn CAG, o nifer o golegau a phrifysgolion ledled y byd.
Mae mwy o wybodaeth ar gyfer myfyrwyr tramor, yn cynnwys ffioedd ac ysgoloriaethau, pecynnau cais (http://www.wcoh.ac.uk/si_int.asp), a’r dewis o lety, i’w gweld ar wefan y coleg.
Dyddiau Agored
Mae Dyddiau Agored, Dyddiau Cyngor a Nosweithiau Cyngor yn rhoi cyfleoedd i ddarpar fyfyrwyr siarad efo tiwtoriaid ac ymgynghorwyr gyrfa ynglŷn â dewisiadau ar gyfer y dyfodol. Mae’r rhai sy’n dod yn gallu dewis hefyd mynd o gwmpas i weld y safle a gweld cyfleusterau’r adrannau. Rydym hefyd yn cynnal Sesiynau Blasu trwy gydol y flwyddyn academaidd er mwyn i ddarpar ddysgwyr roi cynnig ar brynhawn yn un o adrannau Coleg Garddwriaeth Cymru. Mae croeso i chi ymweld â’n gwefan i weld y dyddiadau sydd i ddod, neu ffonio ein Canolfan Wybodaeth ar 01352 841000.