Coleg Llysfasi
Manylion Cysylltu
Tel: 01978 790263
Fax: 01978 790468
Email: admin@llysfasi.ac.uk
Web: www.llysfasi.ac.uk
Y Coleg
Mae Coleg Llysfasi a Hyfforddiant Wrecsam/ Wrexham Training yn cynnig cyfloed i ddysgu o’r radd flaenaf i’r gymuned mewn amgylchedd croesawgar a chefnogol.
Mae’r cyrsiau wedi eu llunio i ddiwallu eich anghenion, gyda chyrsiau amser llawn, rhan amser, dosbarthiadau nos a chyfleoedd yn y gwaith.
O’n canolfan yn Nyffryn Clwyd mae dylanwad y coleg yn ymestyn yn bell. Mae Llysfasi yn gweithio yn Ynys Môn, Gwynedd, Meirionnydd, Sir Y Fflint, Wrecsam a Phowys.
Mae’r Coleg yn gallu cynnig llety gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf i fyfyrwyr. Cafodd rhan gyntaf gwaith adnewyddu sylweddol yn ein hostel ei chwblhau ym mis Gorffennaf 2008, gydag ystafelloedd sy’n cynnwys cyfeusterau en suite, cysylltiad cyflym â’r we a mynediad hwylus ar gyfer pobl ag anableddau.
Cyrsiau
Rydym yn cynnig ystod eang o bynciau i’w hastudio yn cynnwys amaethyddiaeth, coedwigaeth & chadwraeth, gofal anifeiliaid bach, peirianneg, busnes, rheoli, technoleg gwybodaeth, Ffrangeg, Sbaeneg, Eidaleg, Cymraeg i Oedolion, gofal, gofal plant, trin gwallt, therapi harddwch, therapi cyfannol.
14-19 oed
Mae Coleg Llysfasi yn cynnig ystod eang o bynciau a fydd yn denu pobl ifanc i’w hastudio.
Mae ein tiwtoriaid profiadol ac arbenigol yn darparu amgylchedd llawn gofal a chymorth i astudio ynddo. Mae llawer o’r cyrsiau yn cynnwys ymweliadau i astudio mewn llu o leoliadau hynod o ddiddorol ledled y wlad a thramor.
Hefyd, yn ogystal ag addysgu o’r radd flaenaf – ar wahân i’r amser yn yr ystafell ddosbarth mae cyfleoedd i’r myfyrwyr fwynhau hwyl a hamdden.
Prentisiaethau a Swyddi Dan Hyfforddiant
Mae Prentisiaethau Modern, Prentisiaethau Modern Sylfaen a Diplomau Sgiliau Modern ar gael mewn:
- Gofal
- Gofal Plant
- Trin Gwallt
- Gweinyddu Busnes
- Gwasanaeth Cwsmer

- Arwain Tîm
- Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Modur
- Amaethyddiaeth
- Cadwraeth Amgylcheddol
- Rheoli
- Rheolwyr Cofrestredig
- Dosbarthu, Gwaith Warws a Storfa
- Technoleg Gwybodaeth
- Gweithgynhyrchu
I gael mwyn o fanylion mae croeso i chi gysylltu â’r Tîm Dysgu yn y Gwaith yn Hyfforddiant Wrecsam ar 01978 363033.
Addysg Uwch, Wedi Graddio a Phroffesiynol
Mae gan Goleg Llysfasi lawer o gyrsiau ar gyfer pobl sy’n dymuno datblygu eu hunain yn broffesiynol.
O
s oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw bwnc yma – amaethyddiaeth, coedwigaeth, gofal anifeiliaid bach, peirianneg, busnes, rheoli, technoleg gwybodaeth, ieithoedd, gofal plant, trin gwallt, therapi harddwch, therapi cyfannol - ac eisiau gwybod mwy, cysylltwch â ni ar 01978 790263, e-bost: admin@llysfasi.ac.uk neu ewch ar ein gwefan www.llysfasi.ac.uk.
Dysgwyr sy’n Oedolion
Mae Coleg Llysfasi yn cynnig addysg a hyfforddiant arbenigol i bawb o oedolion ifanc hyd at bensiynwyr tros 80 oed a hŷn eto.
Mae’r Coleg yn credu bod mynd allan i’n cymunedau yn hanfodol bwysig ac rydym yn cynnig gwersi mewn llawer o leoliadau allan o’r ganolfan sydd yn aml yn haws i bobl eu cyrraedd.
Cynhelir dosbarthiadau yn ystod y dydd a min nos. Mae dewis eang o bynciau a modd eu hastudio am gyfnodau amrywiol.
Cyflogwyr
Os byddwch yn anfon gweithiwr ar gwrs byddwch yn derbyn gwybodaeth am gynnwys y cwrs, ei hyd ac oriau astudio, costau, cymwysterau a chredydau y gellir eu cyflawni wedi ei gwblhau’n llwyddiannus, ynghyd ag adroddiad rheolaidd ar gynnydd eich gweithiwr.
Os ydych yn gyflogwr sy’n bwriadu hyfforddi’r gweithwyr yn eich sefydliad mae croeso i chi gysylltu â’n tîm dysgu yn y gwaith ar 01978 363033.
Rhyngwladol
Mae Coleg Llysfasi yn gorwedd ym mro brydferth Dyffryn Clwyd. Mae cyrraedd meysydd awyr Lerpwl a Manceinion yn ddigon rhwydd. Mae’r ddau yn daith ychydig mwy nag awr mewn car.
Oherwydd ein bod yn goleg allan yn y wlad, rydym yn cynnig cyfleusterau hostel i’r myfyrwyr. Mae’r rhain yn cael eu hadnewyddu a’u gwella i safon ragorol ar hyn o bryd.
Yn ystod yr haf 2008 croesawodd y coleg lawer o grwpiau tramor a oedd yn ymwneud ag Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Roedd y rhain yn aros yn yr hostel sydd newydd ei adnewyddu yng ngham cyntaf y gwaith.
Dyddiau Agored
Mae croeso i bawb ddod i’n dyddiau agored. Mae’r rhain yn gyfle i bobl ddod i mewn i’r Coleg, siarad efo tiwtoriaid am y cyrsiau sydd ar gael, gweld y cyfleusterau a chael blas go iawn o fywyd yn Llysfasi & Hyfforddiant Wrecsam.
I gael mwy o wybodaeth ffoniwch 01978 790263.