Coleg Llandrillo

Coleg Llandrillo LogoManylion Cysylltu
Ffôn: 01492 546 666
E-bost: admissions@llandrillo.ac.uk
Gwefan: www.llandrillo.ac.uk

Y Coleg

Coleg Llandrillo CampusColeg Llandrillo Cymru yw’r Coleg Addysg Bellach ac Uwch mwyaf yng Ngogledd Cymru efo tua 24,000 o fyfyrwyr yn astudio mwy na 3000 o gyrsiau. Mae prif safle Coleg Llandrillo Cymru yn Llandrillo yn Rhos efo safleoedd eraill yn y Rhyl, Abergele, Dinbych a Llanrwst.

Mae’r Coleg yn cynnig dewis eang o gyrsiau amser llawn a rhan amser, yn amrywio o hyfforddiant sgiliau sylfaenol i Brentisiaethau, a Safonau Uwch  yna TGU(HNC) DGU(HND) , Graddau Sylfaen, Graddau Anrhydedd  ac Astudiaethau Wedi Graddio.

ae’r Coleg wedi ennill enw da trwy’r wlad am ragoriaeth sy’n golygu bod pob un o’n myfyrwyr yn cael cymorth ac anogaeth i lwyddo.

Cyrsiau

Coleg Llandrillo CateringMae’r Coleg yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau yn cynnwys Celfyddyd, Busnes & Adwerthu, Cyfrifiadura, Adeiladu, Peirianneg, Gwallt & Harddwch, Iechyd & Gofal, Lletygarwch & Arlwyo, Moduron, Gwyddoniaeth, Chwaraeon a Thwristiaeth .  Mae gan y Coleg hefyd ddewis llawn o Safonau Uwch , TGAU a’r Fagloriaeth Ryngwladol .

r lefel prifysgol mae’r Coleg yn cynnig dewis o gyrsiau mewn Celfyddyd, Busnes & Adwerthu, Cyfrifiadura, Adeiladu, Peirianneg, Gwallt & Harddwch, Iechyd & Gofal, Lletygarwch & Arlwyo, Moduron, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Hyfforddiant Athro a Thwristiaeth

14-19 oed

Mae Coleg Llandrillo Cymru yn cynnig amrywiaeth eang o gymwysterau academaidd a galwedigaethol o lefel mynediad hyd at Safonau Uwch, Diplomau Cenedlaethol a’r Fagloriaeth Ryngwladol.  Gallwch hyd yn oed barhau â’ch astudiaethau hyd at lefel gradd.

Yn fyfyriwr, mae yno hefyd gyfleusterau TG a Chwaraeon rhagorol ar eich cyfer, yn cynnwys Academïau Chwaraeon y Coleg.

Hefyd, Coleg Llandrillo Cymru oedd y coleg cyntaf yng Nghymru i ennill graddau un yn unig – y radd uchaf y gellir ei chyflawni – mewn arolwg gan y Llywodraeth.

Prentisiaethau & Swyddi Dan Hyfforddiant

Coleg Llandrillo LabMae cynlluniau hyfforddi yn y gwaith yn cynnig modd i chi gael hyfforddiant ac ennill cymwysterau tra’r ydych yn gweithio ac yn ennill cyflog.  Rydych yn gallu dechrau unrhyw oed tros 16 a chael hyfforddiant ymarferol, cyflog neu lwfans hyfforddi a chymwysterau â chydnabyddiaeth genedlaethol iddynt.

Byddech chi hyd yn oed yn gallu cael hyfforddiant yn y gweithle yr holl ffordd i fyny i lefel prifysgol.

Mae Coleg Llandrillo Cymru wedi ennill graddau un i gyd – y radd uchaf y gellir ei chyflawni – am ansawdd ei ddysgu a hyfforddi yn y gwaith drwyddo draw.

Addysg Uwch, Wedi Graddio & Phroffesiynol

Mae Coleg Llandrillo Cymru yn gysylltiedig â Phrifysgol Cymru ac mae’n cynnig amrywiaeth eang o Raddau Anrhydedd, Graddau Sylfaen, Cymwysterau Cenedlaethol Uwch a Phroffesiynol, amser llawn a rhan amser.

Mae’r Coleg hefyd yn gallu ymorol ar eich rhan am amrywiaeth eang o gymorth ariannol, cyngor ynglŷn â gyrfa a chymorth gydag astudio pa un a ydych yn ddysgwr amser llawn neu ran amser.  Mae dosbarthiadau bach a sylw unigol yn golygu na fyddwch yn mynd ar goll yn y dyrfa.

Dysgwyr sy’n Oedolion

Mae gan Goleg Llandrillo Cymru ddewis eang o gyrsiau ar gyfer oedolion os ydych yn bwriadu datblygu eich sgiliau a’ch dyheadau.  Ynghyd â chymwysterau amser llawn mae gan y Coleg amrywiaeth eang o gyrsiau dydd a min nos rhan amser o lefel mynediad hyd at lefel gradd.

Mae’r Coleg yn darparu hefyd amrywiaeth eang o gyrsiau ar safleoedd ledled ardal Gogledd Cymru yn cynnwys Coleg Llandrillo Rhyl a gafodd ei ailgychwyn yn ddiweddar yn ogystal â safleoedd yn Abergele, Dinbych a Llanrwst.

Cyflogwyr

Mae Business Point yn cynnwys amrywiaeth o hyfforddiant o’r radd flaenaf, sy’n rhad ac am ddim neu’n fforddiadwy, ac yn ddigon hyblyg i gyd-fynd â gofynion eich busnes.

Rydym yn cynnig cyfleoedd i hyfforddi a datblygu’n broffesiynol yn ein canolfannau hyfforddi ac yn y gweithle a, hefo modd cael llawer o gyllid ar gyfer hyfforddi gweithwyr, rydym yn aml felly yn gallu cynnig cyrsiau yn rhatach neu am ddim.

I gael mwy o wybodaeth ffoniwch 0845 4 50 59 60 neu ymweld â Business Point.

Rhyngwladol

Mae’r Adran Ryngwladol  yng Ngholeg Llandrillo Cymru yn gallu cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau i chi o’r lefel sylfaenol hyd at lefel gradd, ac mae’n lle cyfeillgar iawn i astudio a dysgu ynddo.
Byddwch yn gallu dod o hyd i waith rhan amser a dewis o wahanol fathau o lety yn cynnwys aros efo teuluoedd a fflatiau hunanddarpar.
Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01492 542 315/319, e-bostio international@llandrillo.ac.uk neu ymweld ag  www.llandrillo.ac.uk/international

Dyddiau Agored

Yn ein Digwyddiadau Agored  rydych yn gallu cyfarfod y staff a myfyrwyr, cael gwybodaeth am gyrsiau amser llawn a rhan amser a gweld pa gymorth ariannol sydd ar gael.
Dyma ein Digwyddiadau Agored & Chofrestru  nesaf:

Coleg Llandrillo Cymru, Safle Llandrillo yn Rhos
Dydd Llun Tachwedd yr 17eg 2008, 5.30 – 7.30pm

Coleg Llandrillo, Y Rhyl
Dydd Llun Tachwedd yr 17eg 2008, 5.30 – 7.30pm

Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01492 542 338/9, e-bostio:  admissions@llandrillo.ac.uk neu ymweld â gwefan Coleg Llandrillo Cymru.