Coleg Menai
Manylion Cysylltu
Ffôn: 01248 383 333
E-bost: learner.services@menai.ac.uk
Gwefan: www. menai.ac.uk
Y Coleg
Pa un a ydych yn ymadael â’r ysgol, yn dod yn ôl i addysg wedi cyfnod o amser neu eisiau newid cyfeiriad yn eich gyrfa, bydd rhywbeth i chi yng Ngholeg Menai www.menai.ac.uk ! Mae Safle gan Goleg Menai yn ninas brifysgol gyffrous Bangor a safleoedd hefyd yn Llangefni, Parc Menai, Caernarfon a Chaergybi.
Mae Coleg Menai yn gallu cynnig i chi:
- Dewis eang o gyrsiau academaidd a galwedigaethol
- Rhaglenni cyffrous ac ymestynnol
- Staff profiadol efo cymwysterau da
- Cyfleusterau o’r radd flaenaf
- Pob cymorth sydd ei angen arnoch i feithrin eich sgiliau
- Dilyniant hyd at Addysg Uwch
- Lle cyffrous i fod!
Cyrsiau
Mae dewis o gyrsiau ar eich cyfer sy’n cynnwys Safonau Uwch, Adeiladu, Peirianneg, Gofal Plant, Iechyd, Lletygarwch, Twristiaeth, Gwallt a Harddwch, Celfyddydau, Chwaraeon, TG, Busnes, ESOL a Mynediad.
14 -19 oed
Mae gan Goleg Menai amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol, o rai cyn Lefel 1 hyd at Lefel 4 mewn pynciau cyffrous fel Gwyddoniaeth Fforensig, Teithio, Gofal Plant, e-gyfryngau ac Adeiladu – pob un yn cynnig llwybrau ymlaen i gymwysterau pellach neu waith.
Mae Coleg Menai yn cynnig Safonau Uwch hefyd. Yr hyn sy’n denu myfyrwyr i wneud Safonau Uwch yma yw ein henw da cynyddol – seiliedig ar dystiolaeth - 99.6% yn llwyddo tros y 3 blynedd a aeth heibio!
Prentisiaethau and Swyddi Dan Hyfforddiant
Ar y rhaglen Prentisiaeth Fodern Sylfaen (PFS) nod y myfyrwyr yw cyflawni fframwaith o hyfforddiant wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor Sgiliau Sector perthnasol ar gyfer y diwydiant perthnasol. Wedi ei gwblhau yn llwyddiannus, mae myfyrwyr yn gallu mynd ymlaen i’r Brentisiaeth Fodern (PF).
Mae’r rhai nad ydynt yn hollol barod ar gyfer amgylchedd gwaith yn gallu dilyn y rhaglen Adeiladu Sgiliau er mwyn datblygu eu hyder ac ystod o sgiliau neu maent yn gallu mynd at gyflogwr am gyfnod o brawf.
Addysg Uwch, Wedi Graddio a Phroffesiynol
Mae Coleg Menai yn cynnig cyfleoedd rhagorol i astudio ar lefel Addysg Uwch. Gallwch astudio ar gyfer Diplomau Cenedlaethol Uwch, Tystysgrifau, Graddau a chymwysterau proffesiynol mewn amrywiaeth o feysydd pynciol.
Mae cymaint o resymau da dros ddewis Coleg Menai:
- Astudio Cymwysterau Prifysgol yn eich coleg lleol
- Agor y drws i yrfa o ansawdd da
- Rhoi hwb i’ch gobeithion o gael dyrchafiad
- Dewis cyrsiau rhan amser neu amser llawn
- Defnyddio adnoddau a chyfleusterau gwych
Dysgwyr sy’n Oedolion
Mae Coleg Menai yn cynnig dewis eang o gyrsiau cymunedol ar gyfer pobl a fyddai’n hoffi datblygu sgiliau newydd ar gyfer datblygu gyrfa neu ddatblygu’n broffesiynol. Cynhelir cyrsiau mewn pynciau fel Sbaeneg, Cymraeg i Oedolion, Blodeuwriaeth a TG yn y coleg a lleoliadau yn y gymuned. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â’r Llinell Gyngor Cyrsiau ar 01248 383 333.
Cyflogwyr
Mae Canolfan Dechnoleg Bwyd Coleg Menai a Chanolfan Arloesi Menai (CAM), yn defnyddio’r technolegau mwyaf diweddar ym maes dylunio a chynhyrchu er mwyn helpu cwmnïau neu entrepreneuriaid i ddatblygu eu syniadau neu gynlluniau.
Mae e-Menai yn darparu cyngor ymgynghoriaeth i fusnesau ynglŷn â’u hanghenion o ran caledwedd a meddalwedd yn ogystal â hyfforddiant wedi ei lunio’n arbennig ar gyfer meddalwedd TG.
Mae’r Coleg yn cynnal hefyd y Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (PTG) sy’n hyrwyddo datblygu ac ymelwa ar wybodaeth rhwng colegau a busnesau.
Rhyngwladol
Efo staff sy’n arbenigo mewn materion rhyngwladol, mae’r Coleg yn cynnig cymorth a dewis o bynciau i bob myfyriwr tramor. Mae ein myfyrwyr yn dod o bob rhan o’r byd ac mae gennym gynrychiolwyr o fwy na 50 o genhedloedd. Mae’r coleg amlddiwylliannol hwn yn darparu amgylchedd cynnes, croesawgar a chynhwysol i bawb, a byddem yn hoffi i chi fod yn rhan o’r gymuned hon. I gael mwy o wybodaeth am Goleg Menai Rhyngwladol cysylltwch â’r Swyddog Rhyngwladol - – 01248 370 125 neu international@menai.ac.uk
Dyddiau Agored
Mae Coleg Menai yn cynnal diwrnod agored ym misoedd Tachwedd, Mawrth a Mehefin. Mae’r rhain yn gyfleoedd gwych i chi ddod i weld yr hyn y gallwn ni ei gynnig i chi, sgwrsio efo tiwtoriaid a gweithwyr cynorthwyol a gweld y safle a’r cyfleusterau. Ewch i edrych ar Wefan Coleg Menai, y prosbectws a’r wasg leol am fanylion ein Diwrnod Agored nesaf. Neu, i gael mwy o wybodaeth ffoniwch y Llinell Gyngor Cyrsiau ar 01248 383 333 neu e-bostio: learner.services@menai.ac.uk