Coleg Harlech/WEA (North)
Manylion Cysylltu
Ffôn: 01766 781900
Ffacs: 01766 780169
E-bost: info@harlech.ac.uk
Gwefan: www.harlech.ac.uk
Y Coleg
Yng ngholeg preswyl Coleg Harlech, yn y gymuned ledled Gogledd Cymru a Gogledd Powys, ac yn y gweithle rydym yn arbenigo mewn darparu cyrsiau wedi eu llunio’n arbennig ar gyfer anghenion oedolion. Cafodd llawer o’n myfyrwyr gam gan addysg draddodiadol yn y gorffennol ac maent wedi dod o hyd i lwybr newydd i ddysgu trwy Goleg Harlech CAG.
Yng Ngholeg Harlech rydym yn cynnig cyrsiau amser llawn ar gyfer oedolion (20+ oed) yn y pynciau canlynol: Technoleg Cerddoriaeth , Amlgyfrwng, Astudiaethau Cymdeithasol , Celfyddyd a Dylunio. Mae’r rhan fwyaf o’r myfyrwyr yn gymwys i dderbyn bwrsariaeth tuag at y ffioedd dysgu, cynhaliaeth a llety.
Cyrsiau
Mae Coleg Harlech, sy’n goleg preswyl ar gyfer oedolion, yn cynnig Tystysgrif Sylfaen Prifysgol Cymru, sy’n gwrs blwyddyn amser llawn, yn y pynciau canlynol: Technoleg Cerddoriaeth , Amlgyfrwng, Astudiaethau Cymdeithasol , Celfyddyd a Dylunio.
Ar lefel 3 y mae pob cwrs yn cael ei astudio ac mae’n werth 120 o gredydau. Wedi cwblhau’n llwyddiannus, mae’r myfyrwyr yn gallu gwneud cais i fynd i’r brifysgol.
Mae’r cyrsiau yn RHAD AC AM DDIM i fyfyrwyr cymwys a dyma’r prif feini prawf:
- tros 20 oed erbyn Medi’r 1af yn y flwyddyn y maent am ddod i’r coleg
- heb astudio ar lefel uwch (h.y. wedi cael gradd yn barod)
- wedi bod yn breswylydd yn y DU drwy’r 3 blynedd cyn hynny, gyda statws sefydlog.
Addysg Uwch, Wedi Graddio a Phroffesiynol
Mae’n bosibl astudio blwyddyn gyntaf cwrs gradd Astudiaethau Cymdeithasol Prifysgol Bangor yng Ngholeg Harlech.
Mae blwyddyn gyntaf y cwrs yn cynnwys cyflwyniad cyffredinol i’r gwyddorau cymdeithasol y mae’n rhaid i bob ymgeisydd ei gwblhau cyn mynd ymlaen i’r ail a’r drydedd flwyddyn. Mae hyn yn cael ei ddarparu yn y brifysgol ym Mangor yn unig.
Mae’n bosibl hefyd astudio blwyddyn gyntaf BSc/BDes Datblygu Effeithiau Arbennig a gynigir gan Brifysgol Bolton sy’n cynnig bwrsariaethau i fyfyrwyr Coleg Harlech.
Mae myfyrwyr yn elwa ar grwpiau dysgu bychain a chael bod ymysg oedolion wrth astudio ar gyfer eu gradd yng Ngholeg Harlech.
Dysgwyr sy’n Oedolion
Mae Coleg Harlech CAG yn arbenigo mewn darparu addysg i oedolion. Rydym yn cynnig dewis eang o gyrsiau dydd a min nos ledled Gogledd Cymru a Gogledd Powys. Trwy weithio’n aml mewn partneriaeth efo sefydliadau eraill, ein nod yw cynorthwyo oedolion sy’n dymuno datblygu sgiliau a diddordebau newydd. Yn wir, mae’r dull anffurfiol a hamddenol o ymdrin â dysgu wedi bod mor boblogaidd, y canlyniad yw mai CAG erbyn hyn yw’r darparydd addysg oedolion mwyaf yn y DU.
Mae manylion llawn y cyrsiau sydd ar gael i’w gweld ar y dolenni canlynol, Conwy, Sir Ddinbych, Wrecsam, Sir Y Fflint, Ynys Môn, Gwynedd, Harlech a Phowys.
Cyflogwyr
Mae Coleg Harlech CAG yn ymwneud â llawer o brosiectau dysgu cysylltiedig â gwaith nid yn unig mewn sefydliadau mawr a rhyngwladol ac awdurdodau cyhoeddus ond hefyd mewn mentrau bach a micro a sefydliadau gwirfoddol.
Ein nod yw dod â chyfleoedd perthnasol i ddysgu at oedolion lle bynnag y bônt a beth bynnag fo eu hamgylchiadau – pa un a oes angen ysgoloriaeth arnynt er mwyn dechrau busnes newydd, angen cymorth gyda’u sgiliau TG neu eisiau dim mwy na’r cyfle i ddysgu tra maent yn y gweithle.