Gogledd Cymru
Mae Gogledd Cymru yn cynnwys Ynys Môn, Pen Llŷn a mynyddoedd Eryri, ynghyd â dalgylchoedd afonydd Conwy, Clwyd a Dyfrdwy.
Mae mynyddoedd a dyffrynnoedd rhanbarth Gogledd Cymru, efo glannau Môr Iwerddon, wedi sicrhau mai twristiaeth yw’r prif ddiwydiant. Yn rhan ddwyreiniol Gogledd Cymru mae’r ardaloedd mwyaf poblog, efo mwy na 300,000 o bobl yn byw yn yr ardaloedd o amgylch Wrecsam a Glannau Dyfrdwy.
Mae’r rhan fwyaf o’r aneddiadau eraill ar hyd y glannau, yn cynnwys nifer o drefi gwyliau poblogaidd fel y Rhyl, Llandudno a Phwllheli. Mae traffordd yr A55 yn cysylltu’r trefi hyn efo gogledd Lloegr a phorthladd Caergybi ar gyfer y cychod i Iwerddon.
Y colegau yn y rhanbarth hwn yw Coleg Harlech/CAG Gogledd, Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Glannau Dyfrdwy, Coleg Llysfasi, Coleg Garddwriaeth Cymru a Choleg Iâl.