Coleg Ystrad Mynach

Manylion Cysylltu
Ffôn: 01443 816888
Ffacs: 01443 816973
E-bost: enquiries@ystrad-mynach.ac.uk
Gwefan: www.ystrad-mynach.ac.uk

Y Coleg

Mae Coleg Ystrad Mynach ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ac mae’n cynnig addysg a hyfforddiant i fwy na 10,000 o ddysgwyr pob blwyddyn.  Rydym yn cynnig cyfleoedd i hyfforddi ar gyfer dysgwyr o bob oedran a gallu hyd at ac yn cynnwys cyrsiau Addysg Uwch.  Mae llawer iawn o waith wedi ei wneud ar ein safle a’n cyfleusterau er mwyn cynnig i chi, ein dysgwr, yr amgylchedd mwyaf cyfoes a chyfeillgar.

Cyrsiau

Mae’r Coleg yn cynnig dewis eang o gyrsiau yn cynnwys: Adeiladu, TGAU & Safon Uwch, Gofal, Cyfrifiadura a Busnes & Gweinyddiaeth.

14 -19 oed

Ystrad Mynach College LibraryMae prosiect 14-19 y coleg yn dal i dyfu o nerth i nerth gyda mwy na 350 o fyfyrwyr ar gyrsiau mewn Adeiladu, Cerbydau Modur, Trin Gwallt, Safon Uwch, a Gwasanaethau Cyhoeddus.

Mae’r cynnydd sydd wedi ei wneud tuag at gyflawni Agenda 14-19 Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ei gyflawni trwy bartneriaeth gadarn rhwng yr ysgolion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a cholegau sy’n cwrdd yn rheolaidd i ddatblygu, cynllunio a chydlynu’r cwricwlwm a chymorth ar gyfer myfyrwyr.

Prentisiaethau & Swyddi Dan Hyfforddiant

Ystrad Mynach College BeautyMae Prentisiaethau Modern a Prentisiaethau Modern Sylfaen ar gael i bobl ifanc sy’n ymadael â’r ysgol ac unrhyw un sy’n dymuno symud ymlaen yn ei swydd.  Mae’r Prentisiaethau yn rhoi’r cyfle i chi ennill cyflog tra byddwch yn ennill cymwysterau y mae parch iddynt ac a fydd yn rhoi gyrfa i chi y gallwch chi fod yn falch ohoni.  I fod yn Brentis Modern mae’n rhaid i chi fod mewn swydd.

Addysg Uwch, Wedi Graddio a Phroffesiynol

Ystrad Mynach College EngineeringMae Coleg Ystrad Mynach yn cynnig dewis o gyrsiau Addysg Uwch ar ei safle yn Ystrad Mynach.  Rydych yn gallu astudio ar gyfer T/DGU, Gradd Sylfaen a gradd hefyd mewn amrywiaeth o feysydd yn cynnwys Cyfrifiadura, Blynyddoedd Cynnar, Dyniaethau, Hyfforddiant Athro a Rheoli.  Mae ein cyrsiau wedi eu rhyddfreinio gan Athrofa Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd, sy’n sicrhau cymhwyster addysg uwch gyda chydnabyddiaeth dda ac wedi ei darparu gan eich coleg lleol.

Cyfrifiadura, Blynyddoedd Cynnar, Dyniaethau, Hyfforddiant Athro a Rheoli – cysylltu gyda thaflen wybodaeth y Cwrs Addysg Uwch priodol.

Cyflogwyr

Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr o bob maint, gan gynnig hyfforddi ac ymgynghori o’r radd flaenaf.  Rydym yn gallu cynnig dewis o gyrsiau byrion, hyfforddi ac ymgynghori mewn amrywiaeth o feysydd yn cynnwys: Iechyd a Diogelwch, Cymorth Cyntaf a Glanweithdra Bwyd.

Rydym yn gallu llunio hyfforddiant ar gyfer anghenion penodol eich cwmni chi, neu rydych chi’n gallu ymuno ag un o’r cyrsiau niferus yr ydym yn eu cynnal yng Nghanolfan Busnes a Thechnoleg Tredomen.

Rhyngwladol

Mae Coleg Ystrad Mynach wedi ymrwymo i roi i bob myfyriwr y profiad gorau sy’n bosibl.  Rydym yn darparu amgylchedd addysgol sy’n gyfeillgar a chefnogol gydag athrawon profiadol a chyfleusterau cyfoes rhagorol.

Pa un a ydych chi am ddysgu Saesneg, datblygu sgiliau ar gyfer y gweithle neu baratoi i astudio mewn prifysgol, rydym yn gallu cynnig y rhaglen sy’n iawn i chi.

I gael rhagor o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu â Swyddog Rhyngwladol y Coleg ar kemorgan@ystrad-mynach.ac.uk

Dyddiau a Nosweithiau Agored

Ein Dyddiau Agored ni yw eich cyfle chi i ymweld â’r Coleg a chael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwn ni ei gynnig i chi.  Yn ystod y sesiwn rydych yn gallu,

  • Siarad gyda Darlithwyr am ein cyrsiau
  • Cwrdd ag Ymgynghorwyr Gyrfa Cymru i drafod dewis gyrfa
  • Holi pa gymorth ariannol sydd ar gael i chi
  • Mynd o amgylch i weld cyfleusterau’r Coleg

I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch Derbyniadau ar 01443 810059 neu e-bostio: enquiries@ystrad-mynach.ac.uk