Coleg Merthyr Tudful

Manylion Cysylltu
Ffôn: 01685726000
Ffacs: 01685 726100
E-bost: college@merthyr.ac.uk
Gwefan: www.merthyr.ac.uk

Y Coleg

Coleg Merthyr Tudful yw darparydd addysg a hyfforddiant ôl-16 mwyaf y Fwrdeistref Sirol.  Mae’r safle ar bwys canol y dref ac yn hawdd cerdded iddo o bob trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae’Merthyr Tydfil College Frontr Coleg wedi ymrwymo i ddiwallu anghenion Pobl Ifanc ac Oedolion am addysg a hyfforddiant.

Rydym yn cynnig dewis eang o gyrsiau amser llawn a rhan amser yn ogystal â llwybrau hyfforddi yn y gwaith.

Mae ein hadran Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnig cyngor a chymorth mewn sawl dull a modd oherwydd ein bod yn deall bod llawer o’n myfyrwyr yn ceisio cadw’r ddysgl yn wastad rhwng astudio, teulu a gwaith.

Rydym wedi ymrwymo i helpu unigolion i wneud y dewis cywir, felly mae pob croeso i chi gysylltu â ni os oes unrhyw gwestiynau gennych chi am gwrs penodol neu am y Coleg yn gyffredinol.

Cyrsiau

Mae’r coleg yn cynnig dewis eang yn ei gwricwlwm ar sawl lefel.  Mae’r cyrsiau yn amrywio o Fusnes, Cyfrifiadura a’r Celfyddydau Gweledol i Gerbydau Modur, Adeiladu a Thrin Gwallt.

14 -19 oed

Mae Coleg Merthyr Tudful yn cynnig dewis eang yn ei gwricwlwm - yn amrywio o gyrsiau lefel cyn-mynediad hyd at Ddiplomau Cenedlaethol.  Oherwydd ei fod yn rhan o Brifysgol Morgannwg mae’r coleg yn cynnig nifer o raddau sylfaen er mwyn i chi fedru symud ymlaen yn ddi-dor ac esmwyth i addysg uwch.

Prentisiaethau & Swyddi Dan Hyfforddiant

Merthyr Tydfil College FrontEnnill cyflog a Dysgu!  Mae Uned Dysgu yn y Gwaith (DYG) y Coleg yn arbenigo mewn cynnig hyfforddiant galwedigaethol o Lefel Sylfaen (Adeiladu Sgiliau) hyd at Lefel 3/4 (Prentisiaeth Fodern) trwy amrywiaeth fawr o lwybrau.

Trwy weithio gyda Chyflogwyr lleol, rydym yn sicrhau bod hyfforddeion yn ennill y sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen er mwyn mynd am a chadw dewisiadau da o ran gwaith a llwyddo yn yr yrfa y maent yn dewis ei dilyn.

Addysg Uwch, Wedi Graddio a Phroffesiynol

Merthyr Tydfil College StudentMae Coleg Merthyr Tudful yn rhan o Brifysgol Morgannwg ac ers nifer o flynyddoedd mae’n ymfalchïo ei fod yn cynnig i’r gymuned leol y cyfleuster o astudio ar gyfer cymhwyster Addysg Uwch ‘ar stepen y drws’.  Rydym yn cynnig dewis o Raddau Sylfaen o Ymarfer ac Iechyd yn y Gymuned i Fusnes a Rheoli.  Rydym yn cynnig hefyd i unigolion y cyfle i fynd i’r Brifysgol trwy ein Rhaglen Mynediad i A.U.

Dysgwyr sy’n Oedolion

Mae’r Coleg yn cynnig amrywiaeth eang o ddewisiadau amser llawn a rhan amser ar lefelau addysg bellach ac uwch sy’n addas i ddysgwyr sy’n oedolion.  Pa un a oes arnoch chi angen diweddaru sgiliau neu ddatblygu rhai newydd mae gennym nifer fawr o gyrsiau i’w dewis.  Efallai y byddwch yn synnu o glywed bod llawer o’n myfyrwyr yn bobl sy’n dod yn ôl.  Mae rhai yn dod yn ôl i ddysgu oherwydd bod arnynt eisiau mynd i’r afael â rhywbeth hollol newydd.

Yng Ngholeg Merthyr rydym yn cynnig cwricwlwm amrywiol, er mwyn i chi fedru dewis yn rhwydd gwneud rhywbeth a fydd yn ehangu eich gorwelion a rhoi i chi’r hyder sy’n dod gyda llwyddo.  Rydych yn gallu dewis rhaglen alwedigaethol ymarferol neu rywbeth mwy academaidd.  Efallai nad yw ennill cymhwyster yn brif nod gennych chi – ac yng Ngholeg Merthyr Tudful rydym yn cydnabod hyn – ond does dim byd yn hybu’r hyder yn well na llwyddiant , a thystysgrif i brofi hynny.

Cyflogwyr

Merthyr Tydfil College StudentsYng Ngholeg Merthyr Tudful rydym yn deall y gwahaniaeth y gall gweithlu hyfedr ei wneud i lwyddiant eich busnes.  Rydym yn gallu helpu eich gweithwyr i ddatblygu eu sgiliau – un ai drwy fynd ar gwrs sy’n agored i unigolion, neu raglen hyfforddi fewnol yn y gweithle.

Mae gan Goleg Merthyr Tudful nifer o raglenni hyfforddi y gellir eu dewis ‘oddi ar y silff’.  Yn lle hynny, rydym yn gallu helpu i lunio pecyn pwrpasol ar gyfer eich sefydliad.