Coleg Gwent
Manylion Cysylltu
Ffôn: 01495 333333
E-bost: info@coleggwent.ac.uk
Gwefan: www.coleggwent.ac.uk
Y Coleg
Mae Coleg Gwent, y coleg addysg bellach mwyaf yng Nghymru, yn cynnig amrywiaeth fawr o gyfleoedd a fydd yn gymorth i chi ddod o hyd i’r cwrs sy’n iawn i chi. Pob blwyddyn mae miloedd o fyfyrwyr yn cofrestru ar un o chwe safle’r Coleg er mwyn astudio ar un o’r cannoedd o gyrsiau sydd ar gael.
Mae Coleg Gwent yn cynnig addysgu o’r radd flaenaf yn ogystal â chyngor gyrfaol, cymorth personol a chymorth dysgu, ac ar ben hynny dewis helaeth o weithgareddau cymdeithasol er mwyn sicrhau y bydd yr amser y byddwch yn ei dreulio yma yn llwyddiannus ac yn ddifyr. Gyda chyrsiau yn cychwyn ar lefelau rhagarweiniol a Mynediad, a rhai sy’n mynd cyn belled â lefel y Radd Sylfaen, mae’n sicr y bydd rhywbeth i chi.
Ewch i wybod rhagor heddiw ar y wefan www.coleggwent.ac.uk, neu yn lle hynny gallwch alw 01495 333333 neu e-bostio info@coleggwent.ac.uk
Cyrsiau
Mae Coleg Gwent yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau amser llawn, rhan amser ac addysg uwch. Mae’r cyrsiau hyn wedi eu llunio i ddal eich diddordeb o’r cychwyn a’ch helpu chi i ddod o hyd i’r yrfa yr ydych yn ei dymuno. Ewch at wefan Coleg Gwent i chwilio am y cyrsiau sydd ar gael. Rydych chi’n gallu chwilio trwy fynd at y campws ac/neu ddewis y maes pynciol sy’n eich denu.
14 i 19 oed
Mae Coleg Gwent yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau sydd ar gael i’w hastudio amser llawn.
Mae’r dewis yn ddiderfyn o Safonau Uwch mewn Cerddoriaeth, Mathemateg a Chyfryngau hyd at Safonau Uwch mewn Gwyddoniaeth, Cymdeithaseg neu Sbaeneg. Mae dewis astudio Safonau Uwch yn gallu bod yn llwybr ymlaen i chi at gyrsiau addysg uwch un ai yma yng Ngholeg Gwent neu yn y Brifysgol. Mae cyrsiau galwedigaethol wedi eu llunio i roi gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol i chi o’r maes yr ydych wedi dewis ei astudio yn ogystal â meithrin eich sgiliau yn ymarferol mewn meysydd fel Therapi Harddwch, TG, Peirianneg a’r Celfyddydau Perfformio.
Prentisiaethau & Swyddi Dan Hyfforddiant
Os ydych chi’n uchelgeisiol ac eisiau rhoi hwb i’ch gyrfa, mae’r Prentisiaethau Modern yn gallu bod yn gymorth i chi. Byddwch yn dysgu sgiliau ymarferol ac ennill cymwysterau y mae parch iddynt ac a fydd yn gymorth i chi greu gyrfa y gallwch chi fod yn falch ohoni. Byddwch o dan hyfforddiant fel prentis fel arfer am 18 mis i bedair blynedd ac wedi ei gwblhau byddwch yn cael Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (CGC) Lefel 3 yn ogystal â chymhwyster sgiliau allweddol a diwydiant penodol.
Addysg Uwch, Wedi Graddio a Phroffesiynol
Mae Coleg Gwent yn cynnig dewis o gyrsiau addysg uwch a phroffesiynol i’w hastudio amser llawn neu ran amser. Trwy ddewis Coleg Gwent, gallwch astudio ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol Uwch (TGU), Diploma Genedlaethol Uwch (DGU) neu Radd Sylfaen. Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r cwrs, gallwch astudio ar gyfer gradd gyflawn yn un o’r prifysgolion sy’n bartneriaid i’r Coleg yn cynnwys Prifysgol Cymru, Casnewydd a Phrifysgol Morgannwg. Mae rhai o’r cyrsiau proffesiynol sydd ar gael yn cynnwys Tystysgrif Sefydliad Siartredig y Cyfrifyddion Rheoli (CIMA) Mewn Cyfrifeg Busnes, a Diploma’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheoli (ILM) mewn Hyfforddi a Mentora.
Dysgwyr sy’n Oedolion
Mae Coleg Gwent yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael i’w hastudio rhan amser. Pa un a ydych yn chwilio am hobi newydd neu wedi bod eisiau dilyn rhyw yrfa arbennig erioed, mae’n siŵr y cewch chi’r hyn yr ydych yn chwilio amdano yn y Coleg. Mae cyrsiau rhan amser ar gael ym mhob math o feysydd pynciol o adeiladu i gyfrifiaduron ac o aromatherapi i gelfyddyd a dylunio.
Cyflogwyr
Gyda’r cyrsiau mwyaf blaengar a staff proffesiynol, mae’r Uned Datblygu Busnes (UDB) yn flaenllaw ym maes hyfforddi. Mae’r UDB yn adain fasnachol i Goleg Gwent ac mae’n adnabyddus oherwydd ei harbenigedd ym maes datblygu pecynnau hyfforddi wedi eu llunio’n arbennig ar gyfer anghenion busnes. Mae modd cynnig pob dewis o hyfforddiant yn y gweithle, ar unrhyw un o chwe safle Coleg Gwent, neu yn ei gyfleuster hyfforddi arbenigol yng Nghwmbrân. I gael rhagor o wybodaeth am y modd y gall yr UDB helpu gyda’ch anghenion hyfforddi, cysylltwch â 01495 333564 neu ewch at yr adran Gwasanaethau i Fusnesau ar y wefan.
Dyddiau Agored
Mae Dyddiau Agored yn gyfle i staff a myfyrwyr arddangos yr hyn sydd ar gael yn y Coleg, yn ogystal â thynnu sylw at y dewis eang o gyrsiau sydd ar gael ar bob safle. Bydd cyfle i’r rhai sy’n dod gwrdd â’r staff, mynd o amgylch i weld y cyfleusterau a chael cyngor yn y fan a’r lle gan ein hymgynghorwyr myfyrwyr arbenigol.
I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch info@coleggwent.ac.uk neu ewch at y wefan: www.coleggwent.ac.uk