Coleg Morgannwg
Manylion Cysylltu
Ffôn: 01443 662800
Ffacs: 01443 663028
E-bost: college@morgannwg.ac.uk
Gwefan: www.morgannwg.ac.uk
Y Coleg
Mae Coleg Morgannwg yn un o’r darparwyr Addysg Bellach a hyfforddiant mwyaf yng Nghymru. Mae wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd ym maes addysg a hyfforddiant sydd o’r radd flaenaf, yn eang a pherthnasol, ar gyfer y gymuned leol. Mae’r coleg yn ymfalchïo mewn pedwar o brif safleoedd ledled Rhondda Cynon Taf ac ar ben h
ynny mae’n cynnig darpariaeth o ddysgu mewn mwy na 80 o ganolfannau allanol mewn cymunedau lleol.
Mae cyfleoedd rhagorol i hyfforddi yn bodoli ar gyfer y rhai sy’n ymadael â’r ysgol, oedolion mewn gwaith sy’n bwriadu ailhyfforddi neu roi hwb i’w gyrfa yn ogystal ag ar gyfer pobl sy’n dymuno ennill cymwysterau i wella’u gobaith o gael gwaith. Cynigir cyrsiau ar delerau amser llawn neu ran amser.
Cyrsiau
Mae Coleg Morgannwg yn cynnig dewis eang o gyrsiau mewn Celfyddyd, Busnes, Gofal, Arlwyo, Cyfrifiadura, Adeiladu, Peirianneg, Gwallt a Harddwch & Therapïau Cyflenwol, y Celfyddydau Perfformio a Chwaraeon.
14 i 19 oed
Mae Coleg Morgannwg a’r ysgolion cyfun yn RhCT yn gweithio ar y cyd i sicrhau bod modd i fyfyrwyr gael profiad o ddewis eang o bynciau galwedigaethol ac academaidd.
Mae modd symud ymlaen i ddewis eang o gyrsiau amser llawn hefyd, gyda nifer o feysydd pynciol i ddewis ohonynt. Mae cyrsiau ar gael ar lefel Sylfaen hyd at y Diplomau Cenedlaethol. Mae modd symud ymlaen o bob lefel a gyda chysylltiadau da gyda nifer o brifysgolion mae modd symud ymlaen i lefel gradd.
Prentisiaethau & Swyddi Dan Hyfforddiant
Mae’r coleg yn cynnig Prentisiaethau Modern a Prentisiaethau Modern Sylfaen mewn Peirianneg Mecanyddol a Phlymio. Mae’r rhain yn agored i bawb sydd mewn gwaith ac maent yn cynnig modd hyblyg o gyflwyno’r hyfforddiant i’r prentis a’r cyflogwr. Maent ar gael i unrhyw un o 16 oed ymlaen.
Mae’r Prentisiaethau Modern yn anelu at:
CGC Lefel 3, Tystysgrif Dechnegol a Sgiliau Allweddol.
Mae’r Prentisiaethau Modern Sylfaen yn anelu at:
CGC Lefel 2, Tystysgrif Dechnegol a Sgiliau Allweddol.
Addysg Uwch, Wedi Graddio a Phroffesiynol
Mae cyfleoedd yn y Coleg i gael Addysg Uwch trwy’r cysylltiadau gyda Phrifysgol Morgannwg, Prifysgol Cymru, Llanbed, Prifysgol Cymru, Casnewydd (UWCN) ac Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWI). Mae’r coleg yn cynnig nifer o gymwysterau ar y cyd â’r prifysgolion hyn: DGU, TGU, Graddau Sylfaen a BA.
Mae’r llwybrau sydd ar gael yn cynnwys: Awyrofod, Therapi Harddwch & Rheoli Spa, Busnes, Therapïau Cyflenwol, Cyfrifiadura, Adeiladu, Dylunio Gwisgoedd, Mecatroneg, Addysg i Raddedigion a nifer o lwybrau Mynediad.
Dysgwyr sy’n Oedolion
Mae Coleg Morgannwg yn annog dysgwyr sy’n oedolion sy’n dymuno ychwanegu at eu haddysg a dysgu sgiliau newydd er mwyn gwella eu gobeithion gyrfaol. Mae dewis eang o gyrsiau rhan amser ar gael yn ystod y dydd a min nos. Mae croeso hefyd i ddysgwyr sy’n oedolion gofrestru ar gyfer ein cyrsiau amser llawn.
Mae’r coleg hefyd yn cynnig dewis o gyrsiau, galwedigaethol ac ar gyfer datblygiad personol, yn y gymuned mewn mwy na 80 o leoliadau yn Rhondda Cynon Taf, gan weithio llaw yn llaw gyda phartneriaid yn y gymuned.
Cyflogwyr
Mae’r coleg yn cynnig cyfuniad o ragoriaeth academaidd a phrofiad diwydiannol er mwyn darparu hyfforddiant o’r radd flaenaf i sefydliadau. Mae ein henw da proffesiynol yn bwysig i ni ac mae’n cynnig i gwmnïau o bob maint hyfforddiant a gwasanaethau eraill o’r safon uchaf.
Mae’r rhaglenni wedi eu llunio i roi i chi a’ch gweithwyr y sgiliau a’r wybodaeth a fydd yn gymorth i hybu hyder ac effeithlonrwydd. Cynigir cyrsiau un ai yn y coleg neu drwy CGC sy’n cael eu hasesu yn y gweithle.
Rhyngwladol
Mae croeso i fyfyrwyr tramor gofrestru ar gyfer unrhyw gwrs yn y coleg. Bydd y Swyddog Myfyrwyr Rhyngwladol yn helpu i drefnu ar gyfer sefydlu a chofrestru ac mae’n rhoi sylw i faterion sy’n ymwneud â mewnfudo a byw mewn amgylchedd newydd, yn ogystal â chynghori ynghylch materion academaidd a chynnydd. Fe gewch gymorth o’r tro cyntaf y byddwch yn ymholi hyd at gwblhau’r cwrs.
Mae’r coleg wedi ei achredu i Brifysgol Morgannwg, sy’n cynnig llawer o gyfleoedd i chi fwrw ymlaen â’ch astudiaethau hyd at addysg uwch.
Dyddiau Agored
Mae’r coleg yn cynnal nifer o Ddyddiau Cyngor trwy gydol y flwyddyn. Cynhelir y sesiynau hyn mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar, ac mae’r staff wrth law i gynnig cyngor a chyfarwyddyd ynglŷn â’r cyrsiau yr ydym yn eu cynnig a’r dewisiadau sydd orau i chi.
Mae staff o Swyddfeydd y Safle ar gael i helpu gyda chyngor ynghylch grantiau, teithio a phob math o ymholiadau eraill a allai fod gennych chi ynghylch astudio yn y coleg.
Dyddiadau ar gael ar www.morgannwg.ac.uk