Coleg Glan Hafren

Manylion Cysylltu
Ffôn: 02920 250250
Ffacs: 02920 250423
E-bost: enquiries@glan-hafren.ac.uk
Gwefan: www.glan-hafren.ac.uk

Y Coleg

Coleg Glan Hafren

Coleg Glan Hafren yw’r coleg addysg bellach mwyaf yng Nghaerdydd, yn cynnig cyrsiau ar gyfer ymadawyr â’r ysgol, oedolion, myfyrwyr tramor a busnesau.  Mae gennym ddau safle – y naill yng Nghaerdydd a’r llall i’r Dwyrain o Gaerdydd, ar bwys yr M4.

Rydym yn cynnig cyrsiau byrion, cyrsiau rhan amser, cyrsiau amser llawn, cyrsiau yn y gwaith a chyrsiau trwy eich cyfrifiadur.

Gyda’n cyfleusterau da, lleoliadau ac amserau cyfleus, tiwtoriaid rhagorol a chanolfannau dysgu a chymorth sydd wedi ennill gwobrau, mae dilyn eich breuddwyd yn haws nag erioed o’r blaen.

Cyrsiau

Mae cyrsiau Glan Hafren yn cynnwys Chwaraeon, Arlwyo a Gofal Plant, yna ESOL a Mynediad, Modurol ac Adeiladu, Creadigol, Busnes a Harddwch, Safonau Uwch ac Ieithoedd a Learndirect.

14 -19 oed

Design Acadademy - Coleg Glan HafrenMae amrywiaeth fawr o ddewisiadau ar gyfer y rhai 14-19 oed yng Ngholeg Glan Hafren. O 14-16  oed, mae myfyrwyr sy’n dal yn mewn rhai ysgolion yn gallu dilyn cwrs gyda’r coleg yn rhan o’u hastudiaethau TGAU.  Ar gyfer unrhyw un sy’n ’ymadael â’r ysgol yn 16 oed, neu’n meddwl am ymadael a mynd i’r coleg, rydym hefyd yn gallu cynnig cyrsiau trwy ein Cytundeb Colegaidd gydag ysgolion, oddeutu 35 o Safonau Uwch, Cyn-brentisiaethau, Bagloriaeth Cymru, nifer fawr o gyrsiau galwedigaethol a chymorth dysgu o’r radd flaenaf.

Prentisiaethau & Swyddi Dan Hyfforddiant

Mae’r Gyfadran Technolegau Modurol ac Adeiladu yn cynnig digonedd o ddewisiadau yn y Prentisiaethau Modern i’r rhai sydd eisoes yn dysgu yn eu gwaith.  Mae cymwysterau Prentisiaeth hefyd mewn Fferylliaeth a Gofal Plant, ac ar ben hynny mwy nag 20 o Ddosbarthiadau Meistr Trin Gwallt a Harddwch, y mae modd eu hastudio fel diddordeb amser hamdden neu er mwyn ennill rhagor o gymwysterau i’ch helpu chi yn eich gwaith.  Os ydych chi am gael cymwysterau gwell ar gyfer eich gwaith a chodi eich gobeithion yn eich gyrfa, efallai mai’r rhain yw’r dewisiadau i chi.

Addysg Uwch, Wedi Graddio a Phroffesiynol

Coleg Glan Hafren The ParadeMae Coleg Glan Hafren yn cynnig dewis o gyrsiau y tu hwnt i’r Safon Uwch, yn cynnwys cyrsiau addysgu fel y CELTA a’r TAR, cyrsiau Cyfrifeg hyd at Lefel Technegydd, cyrsiau ILEX neu’r Gyfraith hyd at Lefel 6 neu Fynediad Graddedig, cymwysterau CIM neu Farchnata hyd at Lefel 6, a nifer o Raddau Sylfaen.  Cynhelir rhai o’r cyrsiau hyn ar y cyd â Phrifysgolion fel UWIC a Phrifysgol Cymru, Casnewydd, ac mae’r amserau a’r prisiau yn gyfleus.

Dysgwyr sy’n Oedolion

Nid yw Oedolion byth yn rhy hen i ddysgu yng Ngholeg Glan Hafren ac mae digonedd o gymorth ariannol a chymorth dysgu i’ch helpu chi.  Os ydych chi eisoes mewn swydd rydym yn cynnig asesiad yn y gwaith, digonedd o ddosbarthiadau nos Safon Uwch, cyrsiau byrion, Cymraeg i Oedolion, a dysgu cymunedol hefyd mewn canolfannau eraill o amgylch Caerdydd.  Ofn y cyfrifiadur? Dewch ar gwrs cyfrifiaduron i ddechreuwyr.  Os ydych yn ddi-waith neu eisiau swydd arall arnoch chi, gallech chi hyd yn oed ddilyn unrhyw gwrs amser llawn.

Cyflogwyr

Mae’r coleg yn cynnig dewis o atebion i gyflogwyr, trwy ein hadain gwasanaethau busnes Atebion Hyfforddi Cymru.  Mae’r adnoddau helaeth sydd ar gael i ni yn y coleg a thu hwnt yn fodd i ni ddarparu pecyn i ddatblygu sgiliau eich gweithwyr a gwella perfformiad y busnes.  Mae ein gwasanaethau yn cynnwys atebion pwrpasol, gwasanaethau busnes, cyrsiau agored, asesu yn y gwaith a phrentisiaethau.  Siaradwch gyda ni nawr, i weld sut fedrwn ni fod o fudd i chi.

Rhyngwladol

Caerdydd yw prifddinas fendigedig Cymru - does dim rhaid i chi fod yn Doctor Who i gamu’n syth mas o’r siopau ac i mewn i gastell.  Yng Ngholeg Rhyngwladol Caerdydd rydych chi’n gallu astudio Saesneg i Fyfyrwyr Tramor, a dewis hefyd o gyrsiau coleg a fydd yn gymorth i chi gael swydd well unrhyw le yn y byd!  Rydym yn gallu eich helpu chi gyda materion lles a llety, ffioedd a sut i wneud cais.  Dewch i Gaerdydd am groeso cynnes!

Dyddiau Agored

Mae Coleg Glan Hafren yn cynnal dyddiau agored trwy gydol y flwyddyn er mwyn i chi fedru dod i siarad gyda’r tiwtoriaid, cael cyngor gyrfaol annibynnol a gweld ein cyfleusterau rhagorol ni.  Byddwn yn cynnal dyddiau agored cyn bo hir ar gyfer y rhai sy’n ymadael â’r ysgol:  Diwrnod Agored Hydref y 4ydd o Dachwedd a diwrnod agored ym mis Ionawr ar gyfer y rhai sy’n ymadael â’r ysgol ac oedolion Ionawr y 15fed 2009.