Coleg Pen-y-bont ar Ogwr
Manylion Cysylltu:
Ffôn: 01656 302302
E-bost: enquiries@bridgend.ac.uk
Gwefan: www.bridgend.ac.uk
Y Coleg
Mae Coleg Pen-y-bont ar Ogwr yn Goleg Addysg Bellach egnïol sy’n cynnig dewis eang o gyfleoedd addysg a hyfforddiant o’r radd flaenaf i fwy nag 16,000 o fyfyrwyr pob blwyddyn. Mae ar 5 safle, gyda’r brif ganolfan ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac mae ein myfyrwyr yn gallu dewis hefyd astudio cwrs yn lleol ym Mhencoed, Maesteg neu Borthcawl neu yn ein canolfan Addysg Uwch yng nghanol Pen-y-bont ar Ogwr.
Gyda nifer enfawr o feysydd pynciol ac astudiaeth alwedigaethol ar gael, ymunwch â ni i weld pam yr ydym ni ‘Y Coleg rhagorol sydd wedi ymrwymo i’ch llwyddiant chi!!!’
Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi yn ymuno â ni yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr.
Cyrsiau
Mae astudio ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cynnig dewisiadau gyrfaol gwych. Awydd gyrfa ym maes cynhyrchu ffilmiau, gwaith cymdeithasol, marchnata, peirianneg strwythurol, addysgu, adeiladu, gwyddoniaeth fforensig neu ddylunio gwefannau?
14 – 19 oed
Gyda’r dewis mwyaf eang o bynciau cwrs a lefelau o astudiaeth – rydym yn hyderus y cewch chi ryw TGAU, CGC, Diplomau Cyntaf, Diplomau Cenedlaethol neu lefelau UG & A2 addas yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Rydym hefyd yn cynnig dewis cynyddol o Raddau Sylfaen.
Mae astudio cwrs galwedigaethol yn y Coleg yn gallu bod yn gymorth ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol ym maes twristiaeth, lletygarwch, y celfyddydau perfformio, rheoli, garddwriaeth, ceffylau, gweinyddiaeth, amlgyfryngau, cerbydau modur, rheoli cefn gwlad, blynyddoedd cynnar neu newyddiaduraeth…
Cysylltwch â’n tîm Gwasanaethau Myfyrwyr cyfeillgar.
Prentisiaethau & Swyddi Dan Hyfforddiant
Mae ein Prentisiaethau Modern yn ddewis tan gamp ar gyfer cyflogwyr a phobl ifanc fel ei gilydd gyda modd ennill cymwysterau ar Lefelau 2 neu 3 CGC (statws crefft llawn).
Rydym wedi bod yn darparu CGC yn y gwaith yn llwyddiannus ers deng mlynedd a rhagor i nifer o sefydliadau o bwys yn cynnwys Corus, Avana Bakeries, Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg, Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro, Heddlu Gogledd Cymru, First Group Bus, Valleys to Coast, Ymddiriedolaeth GIG Pontypridd a’r Rhondda.
Addysg Uwch, Wedi Graddio & Phroffesiynol
Byddwch yn synnu o glywed bod mwy na 1,000 o fyfyrwyr yn dewis astudio cwrs AU amser llawn neu ran amser gyda ni yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr. Trwy gael ein dilysu gan y prifysgolion sy’n bartneriaid i ni, Prifysgol Morgannwg, Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd a Phrifysgol Cymru Casnewydd – rydym yn cynnig i nifer gynyddol o fyfyrwyr lleol y cyfle i astudio Addysg Uwch ‘ar stepen y drws’.
Mae myfyrwyr yn dewis Pen-y-bont ar Ogwr oherwydd ei fod yn lleol, yn gyfarwydd ac yn fodd iddynt ‘gadw’r ddysgl yn wastad’ rhwng gwaith, bywyd ac astudio.
Dysgwyr sy’n Oedolion
Yn un o’r darparwyr mwyaf o astudiaethau rhan amser yn yr ardal, yn cynnig mwy na 260 o gyrsiau rhan amser, rydym yn cynnig amgylchedd hyblyg ac ysgogol ar gyfer dysgwyr sy’n astudio yn eu hamser sbâr, wedi cyfnod o fod gartref neu ar gyfer y rhai sy’n dymuno symud ymlaen yn eu gyrfa bresennol.
Mae cyfleusterau’r myfyrwyr yn cynnwys ystafelloedd TG agored i bawb, meithrinfa ddydd a pharcio ar y rhan fwyaf o’r safleoedd.
Mae astudiaeth ran amser yn gallu bod yn ystod y dydd ac/neu fin nos.
Cyflogwyr
Mae’r tîm yng Nghanolfan Fusnes Coleg Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio’n uniongyrchol gyda chi a’ch busnes i ddarparu’r cyfleoedd i hyfforddi sydd arnoch chi eu hangen i ddatblygu eich gweithwyr.
Mae rhaglenni ar draws sbectrwm eang o bynciau yn cael eu cyflwyno fel:
- Cyrsiau hyfforddi byr
- Prentisiaethau Modern a
- CGC yn y gweithle.
Ar gael hefyd – Cyrsiau Tystysgrif y Prawf Medrusrwydd Cenedlaethol ar ein safle ym Mhencoed.
Cysylltwch â’r Ganolfan Fusnes
Ffôn: 01656 302363
E-bost: bizenquiries@bridgend.ac.uk
Dyddiau Agored
Ymunwch â ni yn un o’n Dyddiau Agored … mae’n ddiwrnod pan fyddwn ni’n agor ein drysau i fyfyrwyr newydd. Mae’n ffordd ardderchog o gael cipolwg arnom, edrych o amgylch y safle lle byddwch yn astudio a sgwrsio gyda’n darlithwyr er mwyn trafod y dewis o gyrsiau sydd ar gael. Ar gael i chi hefyd mae gweithdai, arddangosiadau a chyngor ynghylch cymorth ariannol i fyfyrwyr!!!
Rydym yn cynnig nifer o ddigwyddiadau Diwrnod Agored trwy gydol y flwyddyn – Tachwedd, Mawrth, Mehefin a dau ddigwyddiad ym mis Awst.