Coleg Y Barri
Manylion Cysylltu:
Ffôn: 01446 725000
Ffacs: 01446 732667
E-bost: enquiries@barry.ac.uk
Gwefan: www.barry.ac.uk
Y Coleg
Coleg Y Barri yw’r darparydd addysg a hyfforddiant mwyaf ym Mro Morgannwg ac un o’r lleoedd mwyaf poblogaidd i ddysgu ynddo yn Ne Ddwyrain Cymru.
Gyda chwech o safleoedd modern ledled Bro Morgannwg a Chaerdydd, mae Coleg Y Barri yn cynnig dewis eang o gyrsiau o’r lefel sylfaen hyd at gymwysterau prifysgol.
Mae gan Goleg Y Barri hanes cadarn o lwyddo, ac mae cyrhaeddiad a bodlonrwydd y dysgwyr wedi cynyddu eto eleni, gyda chymorth i’r dysgwyr gyflawni llwybrau dilyniant ystyrlon i’r brifysgol, i waith neu ymlaen yn eu gyrfa.
Beth bynnag yw eich nod, mae gan Goleg Y Barri’r cwrs a’r gefnogaeth a fydd yn gymorth i chi lwyddo.
Cyrsiau
Mae Coleg Y Barri yn cynnig cannoedd o gyrsiau o’r lefel sylfaen hyd at gyrsiau AU. Mae’r pynciau yn cynnwys Awyrofod, Celfyddyd, Busnes, Gofal, Adeiladu, Peirianneg, Trin Gwallt, Lletygarwch, TGCh a Chwaraeon.
14 -19 oed
Mae Coleg Y Barri yn cynnwys yr amrywiaeth fwyaf eang yn y wlad o ddewisiadau ar gyfer y rhai 14-19 oed.
Mae cannoedd o bobl ifanc 14-16 oed o Gaerdydd a’r Fro yn dod i Goleg y Barri i astudio yn rhan o’u TGAU. Wedi’r TGAU, mae llawer o’r dysgwyr hyn ac eraill 16-19 oed yn astudio cwrs amser llawn neu’n dechrau prentisiaeth gyda’r Coleg.
Mae cysylltiadau gyda phrifysgolion lleol yn fodd hefyd i Goleg y Barri gynnig cyrsiau Addysg Uwch hyd at lefel gradd.
Prentisiaethau & Swyddi Dan Hyfforddiant
Mae Prentisiaethau a Swyddi Dan Hyfforddiant yn fodd i chi ddysgu tra byddwch yn gweithio ac ennill cyflog.
Er mwyn gwneud prentisiaeth neu swydd dan hyfforddiant bydd rhaid i chi fod mewn swydd addas. Yna byddwch chi fel arfer yn treulio 1 diwrnod pob wythnos yn y Coleg.
Asiantaeth Hyfforddi Bro Morgannwg (AHBM) yw asiantaeth Coleg Y Barri ar gyfer dysgu yn y gwaith. Trwy AHBM mae’r Coleg yn cynnig prentisiaethau mewn llawer o feysydd pynciol.
Yn ystod prentisiaeth ni fyddwch chi na’ch cyflogwr yn talu am eich hyfforddiant.
Addysg Uwch, Wedi Graddio a Phroffesiynol
Mae gan Goleg Y Barri bartneriaethau gyda phrifysgolion lleol (Prifysgol Morgannwg, UWIC a Phrifysgol Cymru, Casnewydd) a chyrff proffesiynol diwydiannol er mwyn cynnig cymwysterau AU ac wedi graddio.
Yn aml, mae astudio cwrs o’r fath yn y Coleg yn gallu bod yn fwy cost effeithiol a chyfleus ar gyfer phobl leol a busnesau.
Mae Coleg Y Barri yn cynnig nifer gynyddol o gyrsiau ar lefel AU mewn amrywiaeth o bynciau yn cynnwys Awyrofod, Cyfrifeg, Celfyddyd & Dylunio, Rheoli Busnes, Gofal, Cynghori, Cyfrifiaduron ac Addysgu.
Dysgwyr sy’n Oedolion
Yng Ngholeg Y Barri rydym yn deall bod rhaid i anghenion dysgu gyd-fynd â gwaith, teulu ac ymrwymiadau eraill.
Mae’r Coleg yn cefnogi dysgwyr sy’n oedolion – trwy gynnig dysgu hyblyg, gofal plant, cymorth ariannol a rhagor er mwyn sicrhau bod dysgu mor hygyrch ag y bo modd.
Mae’r cyrsiau amser llawn yn cael eu dysgu, yn aml, yn ystod oriau’r ysgol, tra mae’r rhan fwyaf o’r cyrsiau rhan amser ymlaen am un sesiwn yr wythnos am un flwyddyn academaidd neu ddwy. Mae gennym hefyd ddewis poblogaidd o gyrsiau byrion sydd ymlaen trwy gydol y flwyddyn.
Cyflogwyr
Mae gan Goleg Y Barri bron i 50 o flynyddoedd o brofiad o feithrin cysylltiadau gyda sefydliadau er mwyn cynnig hyfforddiant ar gyfer busnes a diwydiant o’r radd flaenaf. Mae’r cysylltiadau hyn yn sicrhau ein bod yn cynnig, i unigolion a sefydliadau, yr wybodaeth, y sgiliau a’r cymwysterau priodol sydd eu hangen i gyflawni safonau diwydiant, nodau busnes, a chyflawni potensial.
Mae hyfforddiant ar gyfer busnesau ymlaen trwy gydol y flwyddyn – o gymwysterau gofynnol mewn iechyd a diogelwch ar gyfer cymwysterau penodol i ddiwydiant. Yn ogystal â chyrsiau ‘oddi ar y silff’ cynigir hefyd pecynnau hyfforddiant wedi eu llunio’n arbennig ar gyfer sefydliadau.
Rhyngwladol
Mae gan Goleg Y Barri ddysgwyr o bob rhan o’r byd. Mae dysgwyr o wledydd eraill yn dod i’r Coleg i astudio trwy un o’n partneriaethau penodol. Mae’r rhain yn cynnwys unigolion sy’n astudio Peirianneg Awyrofod trwy ein partneriaeth gyda Phrifysgol Morgannwg, a grwpiau o ddysgwyr o’r Emiriaethau Arabaidd Unedig sy’n astudio rhaglenni Peirianneg wedi eu llunio’n arbennig.
Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) sy’n gymorth i bobl sydd eisoes yn byw yn y DU nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt.
Dyddiau Agored
Ystyried cwrs gyda Choleg Y Barri?
Diwrnod Agored yw eich cyfle chi i gael rhagor o wybodaeth.
Yn ystod Diwrnod Agored fe gewch chi:
- Sgwrsio gyda thiwtoriaid y cyrsiau
- Siarad gydag Ymgynghorwyr Gyrfa cymwysedig
- Mynd o amgylch i weld ein cyfleusterau rhagorol
- Gweld y cymorth sydd ar gael i ddysgwyr
Mae lluniaeth rad ac am ddim, gwarchodfa ‘alw heibio’ ar gyfer plant bach a bagiau pethau da ar gael hefyd i bob ymwelydd.
I gael y dyddiadau, cysylltwch â studentservices@barry.ac.uk neu ffonio: 01446 725007.