De Ddwyrain Cymru
O Bont Hafren i gymoedd De Cymru ac at Y Barri tua’r gorllewin, De Ddwyrain Cymru yw’r fwyaf poblog o bob rhanbarth yng Nghymru. Yma mae’r brifddinas, Caerdydd, canolfan Llywodraeth Cymru a’r ddinas fwyaf yn y wlad.
Mae canolfannau eraill gyda phoblogaeth fawr ynghlwm wrth Gasnewydd, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr, sy’n drefi gyda gwreiddiau diwydiannol lle mae ailddatblygu blaengar yn digwydd.
Y colegau yn yr ardal hon yw Coleg Y Barri, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, Coleg Glan Hafren, Coleg Morgannwg, Coleg Gwent, Coleg Merthyr Tudful a Choleg Ystrad Mynach.