Coleg Abertawe

Swansea College LogoManylion Cysylltu
Ffôn: 01792 284000
Ffacs: 01792 284074
E-bost: enquiries@swancoll.ac.uk
Gwefan: www.swancoll.ac.uk

Y Coleg

Coleg Abertawe yw’r coleg Addysg Bellach mwyaf yn rhanbarth De Orllewin Cymru.  Rydym yn cynnig cannoedd o gyrsiau i fyfyrwyr – pa un a ydych ar fin ymadael â’r ysgol, yn dod yn ôl i ddysgu wedi cyfnod bant o addysg neu’n bwriadu rhoi hwb i’ch cymwysterau a’ch CV.

Mae gennym safleoedd ledled Abertawe - yn cynnwys ein prif safle yn Nhŷ Coch, ein canolfan celfyddydau creadigol yn Llwyn y Bryn, Canolfan Kingsway yng nghanol y ddinas a’r Coleg Busnes yn Llansamlet. Bydd ein staff yn helpu myfyrwyr trwy bob cam o’u profiad yn y coleg - o wneud ceisiadau a chyllid i drafnidiaeth a dewis cyrsiau.

Cyrsiau

Nod Coleg Abertawe yw darparu’r dewis mwyaf eang o astudiaeth sydd ar gael i fyfyrwyr amser llawn a rhan amser.  Cynigir bron i 30 o bynciau Safon UG a Safon Uwch ynghyd ag amrywiaeth eang o gyrsiau galwedigaethol a hyfforddiant ar gyfer diwydiant.

Mae’r Coleg hefyd yn ymfalchïo yn ei raglen lewyrchus o Brentisiaethau Modern.

14 -19 oed

Mae gan Goleg Abertawe dîm ymroddedig o ddarlithwyr sy’n darparu cyrsiau addas ar gyfer myfyrwyr 14-19 oed yn rhan o’u hastudiaethau TGAU ym Mlwyddyn 10 a Blwyddyn 11.

Mae ein cyrsiau wedi eu datblygu er mwyn ymateb i’r anghenion am sgiliau penodol a welwyd mewn nifer o sectorau diwydiannol ledled ardal De Cymru.  Maent yn cynnwys Chwaraeon a Hamdden, Gweinyddu Busnes a Chyfrifeg, Lletygarwch Teithio a Thwristiaeth, Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Electroneg a Pheirianneg.

Prentisiaethau & Swyddi Dan Hyfforddiant

Mae Coleg Abertawe yn cynnig lefelau gwahanol o Brentisiaethau Modern sydd ar gael trwy gydol y flwyddyn.  Wedi eu cwblhau’n llwyddiannus dyfernir fframwaith Prentisiaeth Fodern gyda chydnabyddiaeth genedlaethol iddo.  Maent yn cynnig hyfforddiant yn y gwaith a’r cyfle i ddysgu sgiliau a chymwysterau hanfodol heb orfod astudio amser llawn.  Maent ar gael ar draws ystod eang o lwybrau galwedigaethol.  Fel arfer, mae Prentisiaid yn cael lleoliad gwaith o bedwar diwrnod ac un diwrnod o’r wythnos yn y Coleg.

Addysg Uwch, Wedi Graddio a Phroffesiynol

Mae Coleg Abertawe yn cynnig cyrsiau Mynediad, Addysg Uwch (AU), Proffesiynol ac Wedi Graddio mewn partneriaeth gyda rhai o’r sefydliadau AU mwyaf blaenllaw yng Nghymru.

Mae ein cyrsiau AU yn tueddu i fod yn alwedigaethol ac maent yn gysylltiedig ag anghenion diwydiant – a bydd y cymwysterau a gewch o ganlyniad yn gweddnewid eich CV ac yn mynd â’ch gyrfa lan i’r lefel nesaf.  Trwy broses lem o gymeradwyo ansawdd, mae ein partneriaid AU a chyrff perthnasol eraill yn dilysu ein cyrsiau er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni’r safonau uchaf.

Dysgwyr sy’n Oedolion

Mae Coleg Abertawe yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau ar gyfer dysgwyr sy’n oedolion.

O gyrsiau Mynediad i TGAU, Safonau Uwch a Diplomau, mae’r cyrsiau hyn yn cynnwys llawer o feysydd pynciol yn cynnwys TG, Gwallt a Harddwch, Gofal Plant, Arlwyo, Cyfrifeg, Electroneg, Celfyddyd a Chrefftau, ac maent yn cael eu darparu mewn dewis o leoliadau cyfleus o amgylch ardal Abertawe.

Mae ein Tîm Gwaith Cymunedol yn gweithio’n agos gyda sefydliadau sy’n bartneriaid i ni yn Abertawe er mwyn cynnig cyrsiau sgiliau sylfaenol a chyrsiau i oedolion yn y gymuned ledled y ddinas.

Cyflogwyr

Gyda mwy nag 20 mlynedd o brofiad o ddiwallu anghenion diwydiant, mae’r Coleg Busnes yn cynnig yr atebion o ran dysgu a sgiliau sydd eu hangen ar gwmni er mwyn llwyddo.  Rydym yn cyfuno dulliau traddodiadol a mwyaf blaengar o ddatrys problemau busnes er mwyn cynnig i sefydliadau ateb wedi ei lunio’n arbennig ar gyfer anghenion unigol.  Mae’r gwasanaethau yn cynnig pecynnau hyfforddi bach hwylus, dulliau cyfweld, sgiliau sylfaenol a chymwysterau sy’n cynnwys CGC (NVQ) TGU (HNC)/DGU (HND)/ Graddau Sylfaen a Phrentisiaethau.

Mae’r sectorau gwasanaeth yn cynnwys Adeiladu, Gwasanaeth Cwsmer, Peirianneg, Iechyd a Diogelwch, Rheoli a llawer rhagor.

Rhyngwladol

Mae Coleg Abertawe yn cynnig nifer o gyrsiau sy’n addas i fyfyrwyr tramor mewn astudiaeth alwedigaethol a phroffesiynol.  Mae’r cyrsiau yn cynnwys y Sylfaen Ryngwladol gyda llwybrau fel y Gyfraith, Dyniaethau, Busnes, Safonau Uwch, Y Fagloriaeth Ryngwladol, Diplomau Cenedlaethol a Diplomau Cenedlaethol Uwch.

Mae cymorth gyda’r iaith Saesneg ar gael a gellir ei drefnu i gyd-fynd â’ch anghenion chi.  Bydd y Swyddfa Ryngwladol yn cynnig cyngor i chi hefyd ynglŷn â llety, ffioedd dysgu a cheisiadau.

E-bost: international@swancoll.ac.uk

Nosweithiau Agored

Mae Nosweithiau Agored Coleg Abertawe yn fodd i ddarpar fyfyrwyr ddod i wybod rhagor am yr amrywiaeth o gyrsiau amser llawn a rhan amser yr ydym yn eu cynnig.  Mae ein staff cyfeillgar wrth law i gynnig cyngor ynghylch cymorth a chyllid ac mae’r myfyrwyr hefyd yn gallu mynd o amgylch i weld ein cyfleusterau [Canolfan Chwaraeon, Canolfan Adnoddau Dysgu, Canolfan Gwallt a Harddwch Broadway, Theatr Counterpoint ac ati].

Cynhelir ein Nosweithiau Agored nesaf Tachwedd y 12fed, Ionawr y 29ain a Mawrth y 4ydd.