Coleg Sir Benfro
Manylion Cysylltu
Ffôn: 0800 716 236
Ffacs: 01437 75 3001
E-bost: t.davies@pembrokeshire.ac.uk
Gwefan: www.pembrokeshire.ac.uk
Y Coleg
Coleg Sir Benfro yw darparydd mwyaf y sir o amrywiaeth eang o addysg ôl-16, hyfforddiant a gwasanaethau eraill. Ar ein safle cyfoes, wedi ei adeiladu’n arbennig, yn Hwlffordd, rydym yn cynnig cyfleoedd rhagorol i hyfforddi i bobl ifanc ac oedolion a fydd yn gymorth iddynt gyflawni eu nodau o ran addysg, hyfforddiant a gyrfa.
Mae tiwtoriaid y coleg yn darparu fframwaith disgybledig a chefnogol sy’n canolbwyntio ar lwyddiant y myfyrwyr. Ar gyfer y rhai sy’n ymadael â’r ysgol, mae’r coleg yn darparu amgylchedd bywiog ac ysgogol sy’n bont i’r brifysgol a byd gwaith.
Byddwch yn siŵr o gael croeso cynnes yng Ngholeg Sir Benfro.
Cyrsiau
Mae’r Coleg yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau, yn amrywio o Gelfyddydau, Cyfrifiadura ac Adeiladu i Beirianneg Morol a Thwristiaeth.
14 -19 oed
Mae Coleg Sir Benfro yn cynnig y dewis o astudiaethau mwyaf eang yn y sir. Rydym yn darparu cyrsiau mewn amrywiaeth enfawr o bynciau – yn amrywio o gyrsiau lefel sylfaen a mynediad hyd at Safonau Uwch a Diplomau Cenedlaethol, ac Academïau Chwaraeon . Hefyd, does dim rhaid i chi gyfyngu eich astudiaethau i hynny. Mae Coleg Sir Benfro wedi ei achredu gan Brifysgol Morgannwg, felly mae modd i chi barhau â’ch astudiaethau yr holl ffordd i lefel gradd.
Prentisiaethau & Swyddi Dan Hyfforddiant
Os ydych chi’n uchelgeisiol ac eisiau rhoi cychwyn da i’ch gyrfa nawr heb oedi, gallai Prentisiaeth Fodern fod yr ateb i chi. Er mwyn mynd yn Brentis Modern mae’n rhaid i chi fod mewn swydd.
Fe gewch chi’r math o sgiliau ymarferol a chymwysterau â pharch iddynt a fydd yn fodd i chi gael gyrfa o’r radd flaenaf y gallwch chi fod yn falch ohoni. Does dim terfyn i’r posibiliadau. Prentisiaeth Fodern yw eich cyfle chi i ddechrau dysgu pethau newydd a’u rhoi ar waith ar unwaith.
Addysg Uwch, Wedi Graddio a Phroffesiynol
Mae Coleg Sir Benfro yn Goleg wedi ei Achredu gan Brifysgol Morgannwg . Os ydych yn lleol gallwch elwa ar addysg uwch ar stepen eich drws heb fynd i’r drafferth a’r gost o symud i rywle arall.
Atynfa i fyfyrwyr o rannau eraill o’r DU yw ein rhaglenni cilfach sy’n defnyddio agweddau unigryw ar yr amgylchedd lleol – graddau mewn Gweithgareddau Antur, Astudiaethau Parth Arfordirol ac Amgylchedd Moreol ac Astudiaethau Hwylio a Cychod Pŵer (yn cynnwys Adeiladu a Llunio Cychod).
Dysgwyr sy’n Oedolion
Mae Coleg Sir Benfro yn cynnig amrywiaeth eang o ddewisiadau ar gyfer dysgwyr sy’n oedolion a hoffai ddatblygu sgiliau newydd ar gyfer datblygu eu gyrfa neu’n bersonol. Mae cyrsiau byr yn ystod y dydd a min nos mewn amrywiaeth eang o bynciau, neu gyrsiau hirach sy’n cael eu hastudio am flwyddyn neu ddwy flynedd, fel arfer un diwrnod yr wythnos. Mae digonedd hefyd o ddewisiadau amser llawn ar lefelau addysg bellach ac uwch.
Rydym hefyd yn darparu cyrsiau cymunedol byr rhan amser mewn lleoliadau ar hyd a lled Sir Benfro.
Cyflogwyr
Yng Ngholeg Sir Benfro rydym yn deall y gwahaniaeth y gall gweithlu hyfedr ei wneud i lwyddiant eich busnes. Rydym yn gallu helpu eich gweithwyr i ddatblygu eu sgiliau – un ai drwy fynd ar gwrs gyda’r coleg, neu raglen hyfforddi fewnol yn y gweithle.
Mae gan Goleg Sir Benfro nifer o raglenni hyfforddi y gellir eu dewis ‘oddi ar y silff’, neu mae modd ni helpu i lunio pecyn pwrpasol ar gyfer eich sefydliad.
Rhyngwladol
Yng Ngholeg Sir Benfro, rydym wedi ymrwymo i’r profiad dysgu llwyr. Bydd ein cyrsiau ni yn eich datblygu chi fel person ac yn eich paratoi ar gyfer byd gwaith sy’n newid mor gyflym. Mae gan ein gwefan yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi am y coleg, y cyrsiau sydd ar gael, llety, ffioedd ac ysgoloriaethau a chyngor ar gyfer gwneud cais.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu eisiau gwneud ymholiadau, mae croeso i chi e-bostio’r Swyddfa Ryngwladol ar international.info@pembrokeshire.ac.uk
Dyddiau Agored
Yn ystod ein dyddiau agored mae modd i chi sgwrsio gyda’r tiwtoriaid ac ymgynghorwyr gyrfa ynghylch eich dyfodol, mynd o amgylch i weld y cyfleusterau rhagorol yn ogystal â’r cyfle i ennill gliniadur.
Ein Dyddiau Agored nesaf yw Mai’r 12fed, Gorffennaf y 1af, a Gorffennaf y 29ain 2008. Dydd Mercher Awst yr 20fed 2008 fydd ein Diwrnod Agored Addysg Uwch o 11am tan 3pm.
I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch (Derbyniadau): 0800 716 236 neu e-bostio: admissions@pembrokeshire.ac.uk