Coleg Castell Nedd Port Talbot

Neath Port Talbot College LogoManylion Cysylltu
Ffôn: 01639 648000
Ffacs: 01639 648009
E-bost: admissions@nptc.ac.uk
Gwefan: www. nptc.ac.uk

Y Coleg

Neath Port Talbot College - FoodYr ail goleg o ran ei faint yng Nghymru, mae Coleg Castell Nedd Port Talbot (CCNPT) yn cynnig modd dewis o un o’r darpariaethau mwyaf eang o gyrsiau amser llawn a rhan amser, academaidd a galwedigaethol.  Mae gennym hefyd ddewis amrywiol o brentisiaethau modern os nad ydych chi’n dymuno astudio amser llawn.

Gydag wyth safle ledled Castell Nedd Port Talbot, staff cyfeillgar a chyfleusterau di-ail, rydym yn gallu cynnig amgylchedd dysgu gofalgar a chefnogol i chi a fydd yn gymorth i chi gyflawni eich potensial.

Beth bynnag yr ydych yn chwilio amdano, mae popeth yn bosibl gyda CCNPT, lle mae sicrwydd y cewch fwy nag addysg yn unig.

Cyrsiau

Mae CCNPT yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau mewn Busnes, Arlwyo, Cyfrifiadura, Adeiladu, Peirianneg, Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio, Gwallt a Harddwch, Chwaraeon a llawer mwy!

14 -19 oed

Neath Port Talbot CollegeMae CCNPT yn Goleg gwirioneddol gynhwysol, sy’n cynnig arlwy o Safonau Uwch, cyrsiau galwedigaethol a Phrentisiaethau Modern addas ar gyfer pob oedran a diddordeb, yn ogystal â chyrsiau Addysg Uwch ar gyfer y rhai sy’n dymuno ennill cymhwyster prifysgol ar ‘stepen eu drws’.

Gyda miliynau o bunnoedd wedi eu buddsoddi eisoes yn yr adnoddau gorau oll ar gyfer ein dysgwyr – o gyfleusterau i staff addysgu, mae hyn yn helpu i wneud y Coleg yn ddewis cyntaf ar gyfer addysg a hyfforddiant.

Prentisiaethau & Swyddi Dan Hyfforddiant

Neath Port Talbot CollegeYdy’r agwedd ymarferol ar ddysgu yn well gyda chi nag astudiaeth academaidd?

Mae prentisiaethau yn cynnig profiad gwerthfawr ymarferol i chi, a fydd yn rhoi i chi’r sgiliau ymarferol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, yn ogystal â’r cyfle i ennill cymwysterau y mae diwydiant yn eu cydnabod a fydd yn gymorth i chi gael swydd barhaol.  Rydych chi hefyd yn gallu dilyn llwybr Prentisiaeth ar gyfer cyfleoedd i gael dyrchafiad neu symud ymlaen i Addysg Uwch.

Mae’r llwybrau hyfforddiant nodweddiadol yn cynnwys: Cyfrifeg; Gweinyddu Busnes; Gofal; Gofal Plant; Adeiladu; Gwasanaeth Cwsmer; Peirianneg; Garddwriaeth; Lletygarwch; TG; Cerbydau Modur; Adwerthu a Rheoli.

Mae prentisiaethau gyda CCNPT yn fodd rhagorol i gyflogwyr ddatblygu’r gweithwyr sydd ganddynt neu recriwtio gweithwyr newydd.  Mae modd creu gweithlu mwy medrus, brwdfrydig ac ymatebol gyda’r sgiliau ymarferol y mae busnesau yn gofyn amdanynt.

Bydd cynhyrchiant yn gwella hefyd wrth i bobl wella yn eu gwaith, mae’n rhoi hwb i’r ysbryd ac mae modd lleihau trosiant gweithwyr trwy gynnig hyfforddiant effeithiol a dilyniant gwirioneddol yn eu gyrfa – dylai cyflogwyr sy’n dymuno gwybod rhagor gysylltu â’r Coleg.

Addysg Uwch, Wedi Graddio a Phroffesiynol

Mae CCNPT yn Goleg wedi ei achredu gan Brifysgol Morgannwg ac mae’n cynnig nifer o gyrsiau AU amser llawn a rhan amser mewn amrywiaeth o bynciau, ar ei safleoedd Castell Nedd ac Afan.  Mae’r ddau safle yn ymfalchïo mewn amrediad llawn o wasanaethau i ddysgwyr yn ogystal â chyfleusterau rhagorol fel yr uned AU newydd o’r radd flaenaf, a ddefnyddir i gyflwyno cyrsiau AU yn unig.  Mae croeso i chi weld ein cyrsiau ar ein gwefan.

Dysgwyr sy’n Oedolion

Mae Dysgu i Oedolion a Chymunedol yn CCNPT  yn cynnwys amrywiaeth eang o gyrsiau galwedigaethol yng Nghanolfan Heol y Frenhines a Choleg Pontardawe, yn ogystal â mewn canolfannau ym Mwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot.

Mae gennym ddarpariaeth ar gyfer oedolion sy’n dymuno rhoi sglein ar ei sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol; Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL); Cyrsiau TG (o’r sylfaenol i’r uwch); Ieithoedd Tramor Modern; Cymraeg i Oedolion a llawer rhagor.

Cyflogwyr

trainingwales yw uned fasnachol CCNPT, sy’n arbenigo mewn darparu rhaglenni hyfforddiant o ansawdd uchel, cost-effeithiol, achrededig ac wedi eu llunio’n arbennig ar gyfer y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yng Nghymru a thu hwnt.

Yn gweithio o’u canolfan yn Nhŷ Twyn yr Hydd, adeilad rhestredig Gradd II ym Mharc Gwledig Margam, mae trainingwales yn ymfalchïo eu bod yn darparu rhaglenni arloesol a hyblyg sy’n diwallu galwadau anodd bywyd busnes.  Cewch ragor o wybodaeth ar www.trainingwales.com

Dyddiau Agored

Yn CCNPT rydym yn cynnig nosweithiau agored yn rheolaidd gydol y flwyddyn a diwrnod agored yn nechrau’r haf.  Yma cewch gyfle i weld y Coleg a’i gyfleusterau rhagorol, cwrdd â’r staff a thrafod eich anghenion, pa un a yw ynglŷn â chwrs arbennig neu am gyngor a chyfarwyddyd cyffredinol.

I gael rhagor o wybodaeth am ein digwyddiadau agored nesaf, mae croeso i chi ymweld â’n gwefan neu gysylltu â Derbyniadau ar 01639 648000 neu admissions@nptc.ac.uk