Coleg Gorseinon

Gorseinon College LogoManylion Cysylltu
Ffôn: 01792 890700
Ffacs: 01792 898729
E-bost: admin@gorseinon.ac.uk
Gwefan: www.gorseinon.ac.uk

Y Coleg

Gorseinon College Main EntranceMae Coleg Gorseinon yn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol i astudio ynddo.  Mae’r staff wedi ymrwymo i ddarparu addysg a hyfforddiant o’r radd flaenaf ar gyfer pob myfyriwr, amser llawn a rhan amser.  Cydnabyddir bod y cymorth i’r myfyrwyr o’r radd flaenaf.  Mae gennym ddisgwyliadau uchel o’n myfyrwyr, sy’n bodloni’r rhain yn gyson trwy gyflawni canlyniadau arholiad rhagorol.  Mae nifer eithriadol yn symud ymlaen i addysg uwch;  mae’r system hyfforddiadol, yn cynnwys rhaglenni arbenigol, fel ar gyfer y rhai sy’n gwneud cais i fynd i Rydychen neu Gaergrawnt, yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu derbyn mewn prifysgolion a cholegau arbenigol ledled y DU.

Cyrsiau

Mae’r Coleg yn cynnig cyrsiau mewn Busnes & Rheoli, Gofalu & Iechyd, Cyfrifiadura & TG, Peirianneg, Ieithoedd, Dyniaethau & Astudiaethau Cymdeithasol, Mathemateg, Gwyddoniaeth  Electroneg, Celfyddydau Perfformio & Chyfryngau, Chwaraeon & Hamdden a’r Celfyddydau Gweledol.

14 - 19 oed

Computer Lab Gorseinon CollegeMae bron i 50  o gyrsiau UG a Safon Uwch ac amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol ar gael, yn cynnwys Lefel Mynediad BTEC, Diploma Gyntaf, Diploma Genedlaethol a’r Dystysgrif Genedlaethol.  Mae myfyrwyr yn dod i mewn i’r cyrsiau ar y lefel briodol, gan ystyried eu cymwysterau a phrofiad presennol.  Mae myfyrwyr yn cael eu paratoi ar gyfer galwadau gwaith, gyda sgiliau allweddol a gweithgareddau menter yn rhan annatod o’r cwricwlwm.  Mae aelodaeth gydag Academi Chwaraeon yn fodd i fyfyrwyr ddilyn y rhaglen o astudiaeth y maent wedi ei dewis tra maent yn datblygu eu sgiliau ym maes chwaraeon.

Prentisiaethau a Swyddi Dan Hyfforddiant

Ar gyfer y rhai sy’n dymuno mynd i fyd gwaith a dal i astudio hefyd yr un pryd yna gallai Prentisiaeth Fodern fod yr ateb.  Mae’r llwybrau galwedigaethol yn cynnwys Gofal, Gwasanaeth Cwsmer, Cerbydau Modur a Chyfiawnder Ieuenctid.  Mae rhaglenni adeiladu sgiliau yn cynnig y cyfle i ddilyn y camau cyntaf i mewn i ddysgu - ac mae’r llwybrau a gynigir yn cynnwys TG a’r cwrs Paratoi ar gyfer y Fyddin.  Mae Canolfan Byd Gwaith yn ddewis arall eto o ran hyfforddi sy’n gallu bod yn ffordd ymlaen i gyrsiau yng Ngholeg Gorseinon.

Addysg Uwch, Wedi Graddio a Phroffesiynol

Gorseinon College ReceptionMae gan Goleg Gorseinon gysylltiadau gyda sefydliadau addysg uwch er mwyn ehangu ei ddarpariaeth a diwallu’r galw.  Mae’r Cymwysterau Addysgu & Gwaith Datblygu wedi eu hachredu gan Brifysgol Cymru, Casnewydd.  Cynigir y Radd mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol mewn partneriaeth gyda Dinas & Sir Abertawe a’u hachredu gan Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru.  Mae cyrsiau Lefel 4 City & Guilds Level 4 ar gael mewn Tecstilau a Gwydr, gyda chymwysterau proffesiynol oddi mewn i’r ddarpariaeth Technoleg Gwybodaeth & Chyfathrebu.

Dysgwyr sy’n Oedolion

Gorseinon College Common RoomMae’r Coleg yn cynnig dewis eang o gyrsiau dysgu gydol oes o’r radd flaenaf -  o gyrsiau byrion sydd weithiau’n ddim ond ychydig wythnosau o hyd, hyd at ddyfarniadau lefel uchel dwy flynedd o hyd.  Mewn partneriaeth gyda darparwyr eraill, mae’r Coleg yn darparu cyrsiau mewn cymunedau ledled Dinas & Sir Abertawe.  Mae’r staff yn ymateb yn ofalus i anghenion myfyrwyr aeddfed ac mae canlyniad y cymorth a’r arweiniad a gynigir i’w weld yn amlwg yn holl lwyddiannau’r myfyrwyr rhan amser.

Cyflogwyr

Mae Coleg Gorseinon wedi ymrwymo i weithio gyda chyflogwyr er mwyn gwella sgiliau gweithwyr er mwyn diwallu anghenion y sefydliad.  Mae gweithwyr yn gallu dod ar gyrsiau’r Coleg neu mae modd llunio rhaglenni’n arbennig ar gyfer gofynion penodol.  Mae Prentisiaethau yn llwybr priodol i lawer. Mae cymwysterau proffesiynol yn cynnig y rhai a gynigir yn yr Academi Microsoft, cyrsiau Rheoli ILM a’r Diploma Sgiliau Modern, cymhwyster Lefel 4 ar gyfer gweithwyr profiadol yn y sector Gofal, yn enwedig y rhai gyda chyfrifoldebau rheoli.

Rhyngwladol

Mae croeso i geisiadau gan fyfyrwyr tramor.  Mae gwybodaeth ar gael am y cyrsiau sydd ar gael ar ein gwefan, ynghyd â manylion ffioedd a gofynion mynediad.

Dyddiau Agored

Fel arfer, cynhelir Nosweithiau Cyfarwyddyd a Chofrestru ar gyfer myfyrwyr rhan amser yn ystod wythnos gyntaf mis Medi.

Cynhelir Nosweithiau Agored ar gyfer myfyrwyr amser llawn Tachwedd y 10fed , Ionawr y 19eg a Mawrth yr 16eg.

Mae’r digwyddiadau hyn yn gyfle i siarad gyda’r staff, sy’n gallu rhoi gwybodaeth a chyngor ynglŷn â phob cwrs sydd ar gael, ac edrych ar y cyfleusterau sydd ar gael hefyd.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch (01792) 890713 neu e-bostio pr@gorseinon.ac.uk