Coleg Sir Gar
Manylion Cysylltu
Ffôn: 01554 748000
Ffacs: 01554 756088
E-bost: admissions@colegsirgar.ac.uk
Gwefan: www. colegsirgar.ac.uk
Y Coleg
Croeso i Goleg Sir Gâr, un o’r colegau addysg bellach mwyaf yng Nghymru.
Mae’r coleg, sydd ar bum safle yn Sir Gaerfyrddin, yn cynnig dewis eang o gyrsiau addysg bellach ac uwch, sy’n diwallu anghenion a dyheadau pobl ifanc ac oedolion yn ogystal â’r gymuned yn gyffredinol yn cynnwys cyflogwyr a’u gweithwyr.
Rydym ar hyn o bryd yn helpu oddeutu 13,000 o ddysgwyr i gyflawni eu potensial a thrin pob un fel unigolyn gan staff cyfeillgar a brwd sy’n gwneud y profiad o ddysgu yn ddiddorol a difyr yn ogystal â chynnig cymorth personol er mwyn i fyfyrwyr gyflawni eu nodau.
Cyrsiau
Mae Coleg Sir Gâr yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau amser llawn a rhan amser. Celfyddyd a Pherfformio, Cyfrifiadura, Peirianneg ac Adeiladu, Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Gwallt a Harddwch, Amaethyddol, Prentisiaethau, Safonau Uwch a Mynediad, Chwaraeon, Busnes a Gweinyddiaeth.
14 -19 oed
Mae Coleg Sir Gâr yn cynnig amrywiaeth o feysydd astudio ar gyfer pobl ifanc sy’n dymuno astudio Safonau Uwch neu ar gyfer cymwysterau galwedigaethol fel Diplomau Cenedlaethol. Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau lefel mynediad a sgiliau bywyd a’r cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Yn goleg wedi ei achredu gan Brifysgol Morgannwg, rydym yn gallu cynnig cyrsiau Prifysgol. Mae’r cyfleusterau o’r radd flaenaf sydd yn y coleg yn ychwanegu at fwynhad o’r coleg a’r profiad o ddysgu.
Prentisiaethau & Swyddi Dan Hyfforddiant
Mae Prentisiaethau a rhaglenni dysgu yn y gwaith yn boblogaidd gyda’r rhai sy’n dymuno ennill tra maent yn dysgu, ac ennill cymhwyster cydnabyddedig wrth elwa ar fanteision cael profiad o amgylchedd gwaith.
Mae dewis o raglenni ar gael mewn llawer o feysydd pynciol gwahanol.
Rydym hefyd wedi lansio’r llwybr dysgu yn y gwaith cyntaf ym maes Ffasiwn, y cyntaf o’i fath yng Nghymru.
Ffoniwch 01554 741186 i siarad gydag ymgynghorydd hyfforddiant.
Addysg Uwch, Wedi Graddio a Phroffesiynol
Mae Coleg Sir Gâr yn cynnig cyrsiau addysg uwch rhan amser ac amser llawn ac mae’n un o’r colegau cyntaf i ennill achrediaeth gan Brifysgol Morgannwg.
Mae hyn yn golygu bod pobl ifanc, y gymuned yn gyffredinol a chyflogwyr a gweithwyr yn elwa ar fedru mynd am gymhwyster addysg uwch yn lleol, y gellir ei drefnu o amgylch gofynion eu gwaith.
Mae’r coleg yn dathlu llwyddiant y myfyrwyr trwy gynnal Seremoni Raddio pob blwyddyn.
Dysgwyr sy’n Oedolion
Mae Coleg Sir Gâr yn cydnabod bod dysgwyr sy’n oedolion yn astudio oherwydd amrywiaeth o resymau gwahanol. Rydym yn cynnig cyrsiau rhan amser ar gyfer pobl sy’n frwd dros ryw hobi neu’i gilydd, neu ar gyfer pobl sy’n dymuno dysgu sgil newydd. Mae llawer o oedolion yn dewis rhaglenni gradd a fydd yn gymorth i hybu eu gobaith am ddyrchafiad neu ar gyfer newid gyrfa. Mae cyrsiau mynediad yn gallu helpu llawer o bobl na chafodd gyfle o gael addysg yn yr ysgol, i gyflawni eu nod o gael yr yrfa y maent wedi breuddwydio amdani erioed.
Cyflogwyr
Mae gan y coleg gysylltiadau rhagorol gyda chwmnïau a sefydliadau lleol a chenedlaethol. Rydym yn deall ac yn ymateb i ddatblygiadau cyfredol ac ar gyfer y dyfodol mewn amrywiaeth o sectorau a diwydiannau ac yn helpu cyflogwyr a gweithwyr trwy gynnig cymwysterau penodol a pherthnasol i ddiwydiant fel cwrs Cyfrifeg yr AAT a’r cymhwyster AMPSPAR ar gyfer ysgrifenyddion meddygol.
Rhyngwladol
Yn un o’r colegau mwyaf yng Nghymru gyda hanes di-dor o lwyddiant gan fyfyrwyr mewn astudiaeth academaidd a phroffesiynol, rydym yn croesawu myfyrwyr o bob rhan o’r byd sy’n dymuno hyrwyddo eu hastudiaethau.
Rydym wedi addysgu myfyrwyr o bob rhan o’r byd, yn cynnwys Tsieina, yr Emiriaethau Arabaidd Unedig, Nepal, Fietnam, Bangladesh ac India.
Nosweithiau Agored
Mae nosweithiau agored yn gyfle delfrydol i gwrdd â’r tiwtoriaid a’r gweithwyr cynorthwyol, yn ogystal ag ymgyfarwyddo â naws y coleg.
Mae’n gyfle hefyd i ddod i weld gyda’ch llygaid eich hun y cyfleusterau y mae pob safle yn eu cynnig. O’r stiwdio ddawns ar safle’r Graig i’r Ganolfan Amgylchedd newydd sbon sydd wedi ei adeiladu yn Rhydaman.
Mae’r nosweithiau agored o 5.30pm tan 8pm ac mae lluniaeth ar gael yn rhad ac am ddim.
Cysylltwch ag admissions@colegsirgar.ac.uk neu 01554 748179 am ragor o wybodaeth.