De a Gorllewin Cymru

map of south west wales collegesGyda’i harfordir a chefn gwlad unigryw, mae De Orllewin Cymru yn ymestyn o Gwm Aman i Abertawe a Bro Gŵyr, ar draws glesni godidog Sir Gaerfyrddin i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae canolfannau yma o hyd lle mae gwaith dur, gweithgynhyrchu a diwydiannau cemegol yn dal i ffynnu, fel yn Aberafan ac Aberdaugleddau.  Yma mae ail ddinas Cymru, Abertawe, tref farchnad bwysig Caerfyrddin a thref Llanelli sy’n codi o’r newydd gyda’i datblygiadau preswyl a masnachol blaengar.

Colegau’r ardal hon yw Coleg Sir Gar, Coleg Gorseinon, Coleg Castell Nedd Port Talbot, Coleg Sir Benfro a Choleg Abertawe.