Coleg Powys

Coleg Powys LogoManylion Cysylltu
Ffôn: 0845 4086 200
Ffacs: 01686 622 246
E-bost: enquiries@coleg-powys.ac.uk
Gwefan: www.coleg-powys.ac.uk

Y Coleg

Yr unig sefydliad Addysg Bellach yn sir Powys, mae gan Goleg Powys dri o brif safleoedd yn Aberhonddu, Llandrindod a’r Drenewydd.  Mae gan y Coleg hefyd nifer o ganolfannau allanol ledled y sir.

Mae’r coleg yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu yn cynnwys amser llawn, rhan amser a dosbarthiadau nos ar gyfer croestoriad o fyfyrwyr o’r rhai sy’n ymadael â’r ysgol i ddysgwyr sy’n oedolion, yn amrywio o gyrsiau hamdden I CGC, Diplomau Cenedlaethol BTEC a Graddau.  Rhoddir cyfle i ddysgwyr elwa ar amrywiaeth o ddulliau dysgu yn cynnwys astudio hyblyg a dysgu o bell.
Coleg Powys Agriculture

Cyrsiau

Rydym yn cynnig cyrsiau mewn amrywiaeth eang o feysydd pynciol o’r Celfyddydau, Cyfrifiadura ac Adeiladu i Wallt a Harddwch, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

14 -19 oed

Coleg Powys Student LibraryWhatever the type of qualification you choose, Coleg Powys offers the greatest range of learning opportunities in Powys. The College offers a wide variety of subjects and qualifications, ranging from pre-entry level up to level five (degree).

Depending upon the type of qualification, you can access your chosen path of study by various means including full and part-time (day and evening) at college as well as through a number of flexible pathways.

Prentisiaethau & Swyddi Dan Hyfforddiant

Coleg Powys ApprenticeshipsMae Coleg Powys, mewn partneriaeth gyda chyflogwyr lleol ac APADGOS, yn darparu dewis o raglenni prentisiaeth.  Mae’r rhaglenni hyn yn derbyn rhan o’u cyllid o’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cynulliad Cymru.  Os oes arnoch chi eisiau rhoi hwb i’ch gyrfa ar unwaith, gallwch dderbyn yr her a chofrestru ar Brentisiaeth yn y Gwaith, Prentisiaeth Sylfaen neu Brentisiaeth Fodern.

Addysg Uwch, Wedi Graddio a Phroffesiynol

Coleg Powys Students

Mae Coleg Powys yn parhau i ddatblygu’r amrywiaeth o raglenni addysg uwch sydd ar gael yn lleol trwy ei drefniadau partneriaeth gyda nifer o sefydliadau yn cynnwys:

  • Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru Llanbed
  • Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd
  • Prifysgol Cymru Casnewydd

Mae’r dewis o raglenni sydd ar gael ar hyn o bryd yn cynnwys Graddau Sylfaen a Graddau Anrhydedd BA mewn amrywiaeth o bynciau.  Rydym yn cynnig hefyd TAR mewn Addysgu Ôl-16.

Dysgwyr Sy’n Oedolion

Mae Coleg Powys yn cynnig dewisiadau amrywiol iawn ar gyfer dysgwyr sy’n oedolion, pa un a ydynt yn dymuno datblygu sgiliau newydd ar gyfer datblygu gyrfaol neu bersonol, neu ddim mwy na dechrau diddordeb newydd neu ddosbarth nos ar un o’r cyrsiau cymunedol a gynhelir mewn lleoliadau ledled Powys.

Mae modd i ddysgwyr sy’n oedolion ymuno â dosbarthiadau rhan amser yn ystod y dydd a min nos, yn ogystal â dewisiadau amser llawn neu astudio hyblyg.

Cyflogwyr

Mae Coleg Powys yn gallu helpu eich gweithwyr i ddatblygu eu sgiliau – un ai drwy fynd ar gwrs yn y coleg neu raglen hyfforddi fewnol yn y gweithle.

Mae’r math hwn o ddarpariaeth wedi ei llunio ar gyfer cyflogwyr sy’n dymuno cydnabod y medrau sydd gan eu gweithwyr a datblygu galluoedd newydd.  Mae’r coleg yn cynnig gwasanaeth asesu a chymorth wedi ei lunio’n arbennig y gellir ei weithredu yn gyfan gwbl neu’n rhannol yn y gweithle.

Dyddiau Agored

Mae ein Dyddiau Agored nesaf rhwng 5pm a 7:30pm yn:
Y Drenewydd Dydd Llun Tachwedd y 10fed
Aberhonddu Dydd Mawrth Tachwedd yr 11eg
Llandrindod & Ystradgynlais Dydd Iau Tachwedd y 13eg