Coleg Meirion Dwyfor
Manylion Cysylltu
Ffôn: 01341 422827
Gwefan: www.meirion-dwyfor.ac.uk
E-bost: coleg@meirion-dwyfor.ac.uk
Y Coleg
Mae Coleg Meirion-Dwyfor, yng Ngogledd Orllewin Cymru, yn goleg gyda thri o brif safleoedd – Dolgellau, Pwllheli a Glynllifon. Mae’r coleg yn cynnig dewis eang o gyrsiau a chyfleoedd i hyfforddi ac mae ganddo gyfleusterau rhagorol ar bob un o’i safleoedd. Mae’r myfyrwyr yn derbyn eu haddysg mewn amgylchedd cynnes a chyfeillgar ac mae pob myfyriwr yn cael Tiwtor Personol a fydd yn cynnig cyfarwyddyd a chymorth yn ystod eu cyfnod yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.
Mae gan y coleg dîm Gwasanaethau Myfyrwyr sy’n gallu cynnig cymorth i’r myfyrwyr a gwybodaeth a chyngor ynghylch materion fel grantiau a gyrfaoedd.
Cyrsiau
Mae Coleg Meirion-Dwyfor yn cynnig cyrsiau amser llawn a rhan amser ar gyfer y rhai sy’n ymadael â’r ysgol ac oedolion; mae ganddo hefyd amrywiaeth o gynlluniau hyfforddi ar gyfer unigolion gyda diddordeb mewn Dysgu yn y Gwaith. Mae Cyrsiau Cymunedol, dosbarthiadau dydd a nos, ar gael hefyd mewn canolfannau lleol ledled yr ardal.
14 -19 oed
Mae gan Goleg Meirion- Dwyfor amrywiaeth fawr o gyrsiau sy’n amrywio o’r lefelau sylfaen a mynediad hyd at y Safon Uwch a phynciau galwedigaethol fel Peirianneg, Arlwyo, Trin Gwallt neu Adeiladu. Mae Pwllheli a Dolgellau yn cynnig dewis o gyrsiau academaidd a galwedigaethol. Mae Glynllifon yn ganolfan sy’n ymwneud â’r tir, gyda chyrsiau fel Coedwigaeth, Gofal Anifeiliaid, Amaethyddiaeth ac Astudiaethau’r Ceffyl. Hefyd, mae oedolion yn gallu astudio rhai cyrsiau Addysg Uwch.
Cysylltwch â: coleg@meirion-dwyfor.ac.uk am fwy o wybodaeth am gyrsiau
Dysgwyr sy’n Oedolion
Mae gan y coleg raglen o Gyrsiau Cymunedol y mae’n eu cynnal pob tymor. Cynhelir y cyrsiau, dosbarthiadau dydd a nos, mewn canolfannau ledled y gymuned leol. Pa un a ydych chi am wella eich sgiliau TG er mwyn dod ymlaen yn eich gwaith, ennill tystysgrif i ddefnyddio llif gadwyn, dysgu iaith newydd ar gyfer eich gwyliau yn Ffrainc neu gael hobi newydd efallai, bydd gennym ni rywbeth a fydd o ddiddordeb.
Prentisiaethau a Swyddi Dan Hyfforddiant
Nid pob myfyriwr fydd yn dymuno dilyn cwrs amser llawn yn y coleg, ond eto bydd arno, neu arni hi, eisiau ennill cymhwyster. Mae’r cynllun Dysgu yn y Gwaith yn fodd i fyfyrwyr ennill cyflog, neu lwfans hyfforddi, ac ennill eu cymwysterau’r un pryd. Mae myfyrwyr yn treulio rhan o’r wythnos yn y coleg a rhan ohoni gyda chyflogwr. Am fwy o wybodaeth am y rhaglenni astudiaeth sydd ar gael mae croeso i chi e-bostio coleg@meirion-dwyfor.ac.uk
Dyddiau Agored
Er mwyn i ddarpar fyfyrwyr fedru ymweld â’r coleg, siarad gyda’r tiwtoriaid a dysgu mwy am y cyrsiau sydd ar gael, mae’r coleg yn cynnal cyfres o Ddyddiau Agored ar bob un o’i safleoedd. Os oes arnoch chi eisiau gweld y safle, yn ddarpar fyfyriwr neu’n rhiant i ddarpar fyfyriwr, mae croeso i chi gysylltu â’r coleg coleg@meirion-dwyfor.ac.uk a byddwn yn trefnu i chi gael dod ac ymweld.