Coleg Ceredigion

Coleg Ceredigion LogoManylion Cysylltu
Ffôn: 01970 639700/01239 612032
Ffacs: 01970 623206/01239 622339
E-bost: enquiries@coleg-powys.ac.uk
Gwefan: www.ceredigion.ac.uk

Y Coleg

Mae Coleg Ceredigion yn goleg addysg bellach dwyieithog gyda dau safle – un yn Aberystwyth ac un yn Aberteifi.  Mae ein cyrsiau yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i ddysgu ar gyfer y rhai sy’n ymadael â’r ysgol ac oedolion a phob blwyddyn mae oddeutu 700 o fyfyrwyr amser llawn a 2000 o fyfyrwyr rhan amser yn cofrestru gyda’r coleg.

Rydym yn falch bod ein coleg wedi llwyddo yn gyson tros y blynyddoedd a hynny o ran y cymwysterau y mae ein myfyrwyr yn eu hennill ac o ran y myfyrwyr yn symud ymlaen i swyddi neu addysg uwch.

Cyrsiau

Mae’r Coleg yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau yn y meysydd canlynol: Celfyddyd, Arlwyo, Adeiladu, Busnes, Peirianneg, Dodrefn, Addysg Gyffredinol, Iechyd a Gofal, TG, Celfyddydau Perfformio ac Ysgrifenyddol.

14 -19 oed

Mae Coleg Ceredigion yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau sy’n amrywio o’r lefel mynediad i Ddiplomau Lefel 3 sy’n cynnig dilyniant oddi mewn i, a rhwng, y meysydd rhaglen hyn: Celfyddyd, Arlwyo, Adeiladu, Busnes, Peirianneg, Dodrefn, Addysg Gyffredinol, Iechyd a Gofal, TG, Celfyddydau Perfformio ac Ysgrifenyddol. Mae’r coleg hefyd yn cynnig cymorth ariannol trwy gyllid LCA(Cymru)  ar gyfer y rhai 16-18 oed a chyllid GDC(AB) ar gyfer myfyrwyr 19 oed a throsodd. Cysylltwch â ni am ragor o fanylion.

Prentisiaethau & Swyddi Dan Hyfforddiant

Mae Coleg Ceredigion yn cynnig sawl math o raglenni Dysgu yn y Gwaith a fydd yn gymorth i chi ddod ymlaen, yn cynnwys y Brentisiaeth Fodern Sylfaen, y Brentisiaeth Fodern a’r Diploma Sgiliau Modern.  Er mwyn cofrestru ar unrhyw un o’r rhaglenni Dysgu yn y Gwaith mae’n rhaid i chi fod mewn swydd yn y sector perthnasol.

Mae’r Prentisiaethau yn rhaglenni ymarferol sy’n ymwneud â gwaith a fydd yn fodd i chi ddysgu a datblygu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer hybu eich gyrfa.

Addysg Uwch, Wedi Graddio a Phroffesiynol

Mae Coleg Ceredigion yn cynnig dewis o gyrsiau lefel uwch wedi eu llunio i fod yn bont tuag at Addysg Uwch.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifo (yr AAT) sy’n arwain at gymhwyster Technegydd Lefel 4 AAT.
  • Tystysgrif Addysg i Raddedigion (Addysg Ôl-orfodol) y mae Prifysgol Cymru Casnewydd yn ei rhyddfreinio.
  • QAA Mynediad i Nyrsio a’r Proffesiynau Iechyd

Dysgwyr sy’n Oedolion

Mae Coleg Ceredigion yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau ar gyfer dysgwyr sy’n oedolion a hoffai ddatblygu sgiliau newydd ar gyfer datblygiad gyrfaol neu bersonol.  Mae cyrsiau byrion yn ystod y dydd a min nos mewn amrywiaeth o bynciau yn cynnwys TG, Crefftau’r Cartref ac Arlwyo.  Mae digonedd hefyd o ddewisiadau amser llawn ar gael.

Cyflogwyr

Pa un a ydych yn chwilio am hyfforddiant yn y diwydiannau Gwesty, Trwyddedu ac Adloniant, Cyrsiau Statudol yn cynnwys Cymorth Cyntaf ac Iechyd a Diogelwch, neu’n bwriadu datblygu sgiliau arwain a rheoli eich gweithwyr, mae Cyfadran Fenter arobryn Coleg Ceredigion yn gallu helpu.

Mae’r Gyfadran Fenter yn gallu cynnig hefyd hyfforddiant pwrpasol ar y safle er mwyn sicrhau’r hyfforddiant gorau sy’n bosibl ar gyfer eich busnes.  Cysylltwch â’r Gyfadran Fenter am ragor o fanylion.

Dyddiau Agored

Mae ein dyddiau agored yn fodd i chi ddod i weld y cyfleusterau rhagorol sydd ar gael, a thrafod gwahanol gyrsiau gyda’r tiwtoriaid.  Gallwch hefyd drafod cymorth ariannol a materion trafnidiaeth gyda’n swyddogion Cyngor a Chyfarwyddyd.

Dyma ein Dyddiau Agored nesaf:

Aberystwyth
Dydd Iau Tachwedd yr 20fed  2008 4-8pm
Dydd Llun Mawrth yr 2il  2009 4-8pm
Dydd Llun Mehefin y 15fed  2009 4-8pm

Aberteifi
Dydd Llun Tachwedd yr 17eg  2008 4-8pm
Dydd Iau Mawrth y 5ed  2009 4-8pm
Dydd Iau Mehefin y 18fed  2009 4-8pm

Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Aberystwyth -01970 639700, Aberteifi 01239 612032 neu E-bostio enquiries@coleg-powys.ac.uk