Canolbarth Cymru
Mae ardal y Canolbarth yn cynnwys Ceredigion, Meirionnydd a Phowys a rhannau o Barciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog.
Fel llawer o ardaloedd eraill yng Nghymru, mae’r glannau yn drawiadol o hardd ac mae Bannau Brycheiniog yn cynnig rhai o’r teithiau cerdded mwyaf ysgubol ym Mhrydain.
Mae poblogaeth y Canolbarth yn y trefi llewyrchus sy’n cynnwys Llanfair ym Muallt, Y Trallwng a’r Drenewydd, yna Aberystwyth ar lan y môr, ac er mai ardal wledig yw hi’n bennaf, mae llawer o gwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol wedi ymsefydlu yma.
Colegau’r rhanbarth hon yw Coleg Ceredigion, Coleg Meirion Dwyfor a Choleg Powys.