
Fy Ngholeg Lleol
Mae bron i 300,000 o bobl yng Nghymru yn astudio yn eu coleg lleol. Mae Colegau Addysg Bellach (AB) yn cynnig cannoedd o gyrsiau, o Safonau Uwch i gyrsiau hamdden, o hyfforddiant busnes i gyrsiau ar gyfer myfyrwyr tramor. Os ydych chi rhwng 16 a 24 oed, tros 25 oed neu’n gyflogwr, bydd mylocalcollege.com yn gymorth i chi ddod o hyd i lawer o wybodaeth am gyrsiau coleg, lle bynnag yr ydych yn byw yng Nghymru.
mylocalcollege.com yw’r modd mwyaf cyflym i ddod o hyd i’ch coleg lleol. Mae’n eich cysylltu chi gyda phob un o’r 23 o golegau yng Nghymru trwy dri cham rhwydd:
- I ddod o hyd i’ch coleg lleol, does dim ond rhaid i chi glicio ar y rhanbarth yr ydych yn byw ynddo. Fe welwch chi bob un o’r colegau yn eich rhanbarth chi wedi eu rhestru yma.
- Darllen am bob coleg trwy glicio ar dudalen y coleg hwnnw.
- Cael mwy o wybodaeth am gyrsiau, cyfleusterau a chwaraeon a chipio prosbectws trwy fynd at wefan y Coleg.